Diffibriliwr newydd ar gyfer Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Mae dinas Llanelwy yn elwa o ddiffibriliwr newydd wedi'i osod yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
Mae'r ddyfais symudol ar gael y tu mewn i'r adeilad hynafol er mwyn helpu unrhyw un a allai ddioddef ataliad ar y galon yn ystod gwasanaethau neu digwyddiadau araill, neu unrhyw un sy'n ymweld â'r fynwent neu Ystafell De y Cyfieithwyr.
Mae'r gosodiad wedi cael ei gefnogi gan Achub Bywyd Cymru, un o raglenni Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i hymgyrch i leihau nifer y marwolaethau o ataliadau ar y galon y tu allan i'r ysbyty.
Wrth dderbyn y diffibriliwr, dywedodd Deon Eglwys Gadeiriol Llanelwy, yr Hybarch Nigel Williams: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Achub Bywyd Cymru am weithio gyda ni yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mae argaeledd a hygyrchedd diffibrilwyr yma ac mewn safleoedd eraill yr Eglwys yng Nghymru yn gnwued byd o wahaniaeth wrth helpu i leihau nifer y marwolaethau o ataliad ar y galon ac rydym yn barod i chwarae ein rhan yn yr ymgyrch hon i achub bywydau.
"Wrth gwrs, rydym yn gobeithio na fydd angen ei ddefnyddio byth, ond bydd yn gysur mawr i wybod bod y diffibriliwr ar gael yn yr eglwys gadeiriol ac ar gyfer yr ystafell de, sy'n gweld cannoedd o ymwelwyr bob wythnos."
Rhoddwyd cyfarwyddiadau i dîm staff yr Eglwys Gadeiriol ar sut i ddefnyddio'r diffibriliwr mewn argyfwng gan Arweinydd Tîm Cydlynydd Cymunedol Achub Bywyd Cymru, Christopher West. Ymwelodd â'r Eglwys Gadeiriol ddydd Mawrth 18 Mawrth i gyflwyno'r ddyfais ac i ddangos y tîm sut i’w wirio’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i weithio.
Y diffibriliwr hwn bellach yw’r trydydd sydd wedi'i leoli yn agos at yr Eglwys Gadeiriol. Mae’r ddau arall, ar y Stryd Fawr a thu allan i'r Chippery ar Mount Road, ar gael bob adeg o'r dydd a'r nos.
Mae Achub Bywyd Cymru yn amcangyfrif y bydd mwy na 6,000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru yn cael ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty. Maent yn aml yn digwydd yn sydyn a heb rybudd. Onibai bod y cyflwr yn cael ei adnabod yn gyflym a bod triniaeth yn cael ei rhoi mor fuan â phosib – megis perfformio CPR a defnyddio diffibriliwr yn y munudau cyntaf o'r ataliad – mae marwolaeth yn debygol.
Dywedodd yr Athro Len Nokes, Cadeirydd Achub Bywyd Cymru: "Rwy'n falch iawn bod Achub Bywyd Cymru wedi cefnogi dyfodiad y diffibriliwr symudol newydd hwn yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mae'n rhan o'n dull arloesol o helpu i ddarparu gofal brys prydlon ledled Cymru.
"Mae'n bwysig i ni ein bod yn annog mwy o bobl i fod yn ymwybodol o CPR a sut I ddefnyddio diffibriliwr fel y gellir achub mwy o fywydau os bydd ataliad ar y galon yn digwydd.
"Does dim angen unrhyw hyfforddiant arnoch i ddefnyddio diffibriliwr ond gallwch adeiladu eich hyder trwy gymryd ychydig funudau i wylio ein ffilmiau ymwybyddiaeth CPR a diffibrilio, chwiliwch am Achub Bywyd Cymru."
Mae llinell gymorth arbennig ar gael i unrhyw un sydd wedi bod yn dyst i CPR neu sydd wedi ei berfformio. Y rhif i'w ffonio yw 0808 8021234 a gallwch ddarganfod mwy ar y safle hwn: Cymorth ar ôl ataliad ar y galon | Cyngor Dadebru y DU.
Mae Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn un o'r prif atyniadau treftadaeth ar hyd coridor yr A55 ac mae'n ymddangos ar yr arwyddion twristiaeth brown o'r llwybr hwnnw. Mae'n derbyn miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ar gyfer gwasanaethau rheolaidd yn ogystal â digwyddiadau, cyngherddau a gwyliau. Agorwyd Ystafell De y Cyfieithwyr, sy'n ffinio â'r eglwys gadeiriol, yn 2018.
Mae adeilad presennol Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ac mae wedi chwarae rhan allweddol wrth gadw'r Gymraeg. Ymhlith ei thrysorau mae ganddi gopi gwreiddiol o Feibl William Morgan sy'n dyddio o 1588, ynghyd â'r cyfieithiad cyntaf o'r Testament Newydd i'r Gymraeg yn dyddio o 1567, a wnaed gan yr ysgolhaig o Sir Ddinbych William Salesbury; ceir hefyd bopi o Feibl Diwygiedig William Morgan o 1620 a wnaed gan yr Esgob Richard Parry – oedd hefyd yn Esgob Llanelwy, a Llyfr Gweddi Gyffredin 1621 sy’n cynnwys Sallwyr Edmund Prys a oedd yn caniatáu i Salmau gael eu canu yn Gymraeg yn yr eglwys am y tro cyntaf.
Eglwys Gadeiriol Llanelwy yw sedd Esgob Llanelwy, un o chwe Esgob yr Eglwys yng Nghymru, sef talaith annibynnol o'r Cymundeb Anglicanaidd byd-eang.