Lansio llwybr pererindod newydd mawr yng ngogledd-orllewin Cymru
Mae Llwybr Cadfan, llwybr pererindod newydd yng Ngogledd Orllewin Cymru, yn cael ei lansio fis Medi hwn ac yn cynnig cyfleoedd unigryw i anturiaethwyr ac eneidiau ysbrydol archwilio tirweddau mwyaf trawiadol a hanesyddol y rhanbarth.
Llwybr 128 milltir (207 km) yw Llwybr Cadfan a enwir ar ôl y Sant o’r chweched ganrif, Sant Cadfan. Mae'n mynd â phererinion ar daith 12 diwrnod o Dywyn, ar arfordir deheuol Gwynedd, i ynys sanctaidd enwog, Ynys Enlli, sydd wedi'i lleoli oddi ar arfordir Pen Llŷn, sy'n enwog am ei harwyddocâd ysbrydol a'i golygfeydd syfrdanol.
Ar hyd y daith, bydd pererinion yn ymweld â 17 eglwys o bwysigrwydd hanesyddol a chwe ffynnon sanctaidd, pob safle yn cynnig cyfle i gysylltu â threftadaeth ysbrydol gyfoethog Gogledd-orllewin Cymru. Mae'r llwybr yn cynnwys ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac arfordir heb ei ddifetha wrth iddo ymdroelli trwy Feirionnydd, Eifionydd a Phen Llŷn.
Mae Llwybr Cadfan yn lansio Dydd Sadwrn 28ain Medi yn Eglwys Cadfan Sant, Tywyn – yr eglwys gyntaf ar lwybr y bererindod. Bydd pererinion yn cerdded i Eglwys y Santes Fair a Egryn Sant , Llanegryn – yr ail eglwys ar y llwybr - a byddant yn dychwelyd am wasanaeth arbennig a chyngerdd ar thema pererindod. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys perfformiad gan y gantores a'r gyfansoddwraig Cristnogol Cass Meurig a barddoniaeth gan y beirdd enwog Siân Northey a Siôn Aled.
Yn ystod y dydd bydd Eglwys Sant Cadfan yn cynnal diwrnod agored Llwybr Cadfan lle gall ymwelwyr ddarganfod mwy am lwybr y bererindod. Mae'r diwrnod agored yn cynnwys gweithdy barddoniaeth dwyieithog ar gyfer pob oed wedi'i ysbrydoli gan dirwedd y llwybr, gweithdy creu stamp pererindod i blant, digwyddiad gweddïgar, a phererindod fach sy'n archwilio Carreg Cadfan- carreg o bwysigrwydd hanesyddol gwirioneddol o'r 7fed i'r 8fed ganrif sy'n dal croes Ladin linol a'r arysgrif ysgrifenedig cynharaf y gwyddwn amdani o'r iaith Gymraeg gynharaf ddarganfuwyd erioed.
Rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy o bobl yn darganfod neu'n dyfnhau eu hysbrydolrwydd wrth iddynt gychwyn ar yr hyn a all fod yn bererindod sy'n newid bywydau.
Meddai Archesgob Cymru Andrew John, a fydd yn un o'r pererinion cyntaf i gerdded dechrau'r daith ar Fedi’e 28ain, "Mae lansiad Llwybr Cadfan yn nodi pennod newydd yn nhraddodiad parhaus a phoblogrwydd newydd pererindod yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o fod yn un o'r pererinion cyntaf i gerdded rhan cyntaf y llwybr.
"Gyda llwyddiant rhaglenni fel Pilgrimage gan y BBC, rydym wedi gweld mwy a mwy o bobl yn archwilio eu hysbrydolrwydd trwy gerdded llwybrau pererindod hynafol ac ymweld ag eglwysi a ffynhonnau sanctaidd i ddarganfod ein treftadaeth Gristnogol gyfoethog wrth iddynt geisio atebion i broblemau bywyd.
"Mae pererindod Llwybr Cadfan yn gyfle i unigolion gamu i ffwrdd o brysurdeb bywyd bob dydd, profi llonyddwch natur, treulio amser gyda Duw mewn gweddi a myfyrio, a dychwelyd adref gydag ymdeimlad newydd o heddwch.
“Rwy'n gobeithio ac yn gweddïo y bydd llawer mwy o bobl yn darganfod neu'n dyfnhau eu hysbrydolrwydd wrth iddynt gychwyn ar yr hyn a all fod yn bererindod sy'n newid bywydau."
Bydd pererinion sy'n cerdded Llwybr Cadfan yn dirwyn eu ffordd trwy goedwigoedd glaw derw hynafol, eglwysi anghysbell y gorffennol, ac ar hyd traethau eang, gan ymgolli yn harddwch naturiol a hanes ysbrydol yr ardal.
Ymhlith yr uchafbwyntiau hanesyddol a chrefyddol mae:
- Cerflun y Ddau Frenin ger Castell Harlech, wedi'i ysbrydoli gan chwedl yn y Mabinogi.
- Ffynnon Cybi, y credir ei bod yn medddu ar y gallu i iachau gyda llawer o bobl yn teithio pellteroedd mawr i ymolchi yn ei ddyfroedd iachaol.
- Eglwys Hywyn Sant, Abderdaron - gorffwysfan olaf i bererinion ar y daith i Ynys Enlli. Roedd y bardd a'r offeiriad Cymreig R.S. Thomas yn ficer yn Aberdaron, ac ysbrydolodd y tirlun ei farddoniaeth.
Mae Llwybr Cadfan wedi ei greu gan Esgobaeth Bangor fel rhan o brosiect Llan. Mae Llan yn brosiect saith mlynedd gwerth £3m a fydd yn gweld datblygu adnoddau efengylaidd Cymraeg newydd, mentrau cymdeithasol a gweinidogaethau newydd sy'n canolbwyntio ar bererindod ar draws yr esgobaeth. Ariennir Llan gan Gronfa Efengylu'r Eglwys yng Nghymru.
Lansio Llwybr Cadfan
Cofrestrwch nawr