Ordeinio offeiriaid a diaconiaid newydd
Bydd cannoedd o bobl yn mynychu cadeirlannau ledled Cymru y penwythnos hwn i groesawu a chefnogi offeiriaid a diaconiaid mewn cyfres o wasanaethau ordeinio.
Caiff yr ymgeiswyr, sydd o bob gefndir, eu hordeinio gan eu hesgob lleol. Bydd yr ordeinio yn nodi dechrau cyfnod newydd yn eu gweinidogaeth ar ôl nifer o flynyddoedd o hyfforddiant.
Bydd cyfanswm o 48 o bobl yn cael eu hordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru ar Ŵyl Sant Pedr eleni – 25 fel diaconiaid a 23 fel offeiriaid. Caiff y rhan fwyaf eu hordeinio y penwythnos hwn (25 Mehefin), a chaiff pump diacon eu hordeinio yng Nghadeirlan Llanelwy ar 2 Gorffennaf.
Gallwch ddarllen mwy am yr ymgeiswyr a’r gwasanaethau yn y cadeirlannau ar wefannau’r esgobaethau islaw. Caiff rhai o’r gwasanaethau eu ffrydio’n fyw i alluogi pawb i gymryd rhan.
Gofynnir i chi gadw’r holl ymgeiswyr yn eich gweddïau wrth iddynt baratoi ar gyfer ordeiniad a dechrau eu gweinidogaethau newydd.