Offeiriaid a diaconiaid newydd i’w hordeinio ledled Cymru
Mae cerddor a rhywun oedd yn arfer gweithio fel paentiwr ac addurnwr ymysg nifer o bobl ym mhob cwr o Gymru a fydd yn dechrau ar fywyd newydd o wasanaethu yn yr Eglwys yng Nghymru dros y pythefnos nesaf.
Bydd 47 o bobl yn cael eu hordeinio fel offeiriaid neu ddiaconiaid mewn gwasanaethau arbennig yn ein cadeirlannau y Sadwrn hwn (24 Mehefin) ac ar 1 Gorffennaf.
Byddant yn cael eu hordeinio gan esgob eu hesgobaeth gerbron eu teuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr a’r gymuned mewn gwasanaethau sy’n agored i bawb. Y diwrnod hwn yw penllanw eu hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth a dechrau eu swyddi newydd yn yr Eglwys.
Gallwch ddarllen am yr ymgeiswyr a chael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau ordeinio ar wefannau’r esgobaethau isod. Bydd rhai o’r gwasanaethau’n cael eu ffrydio’n fyw.
Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu
Cofiwch am yr ymgeiswyr yn eich gweddïau wrth iddynt baratoi i gael eu hordeinio a dechrau ar eu gweinidogaethau newydd.