Offeryn newydd yn helpu eglwysi i fesur eu ôl-troed carbon
Gall eglwysi fesur eu ôl-troed carbon gydag offeryn ar-lein newydd.
Mae’r Offeryn Ôl-troed Ynni yn ffordd gyflym a rhwydd i eglwysi ganfod faint o garbon a ddefnyddiant bob blwyddyn, gan eu helpu i gynllunio gweithredu i’w ostwng a’i wrthbwyso.
Gall clerigwyr a gwirfoddolwyr yn awr fewnbynnu data o’u biliau ynni blynyddol ac mae’r offeryn yn cyfrif ôl-troed carbon eu heglwys yn syth. Gyda gwybodaeth llinell sylfaen o’r fath, gellir gwneud cynlluniau yn lleol i annog mesurau lliniaru ar gyfer pob eglwys mewn cyd-destun, a gellir gweld pwy sy’n defnyddio llawer o ynni a’u targedu am fwy o help.
Cafodd yr offeryn ei lansio gan Archesgob Cymru, Andrew John, yn y cyfarfod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf, cyn y rhoddwyd arddangosiad byw.
Fe wnaeth yr Archesgob Andrew annog pob eglwys i’w ddefnyddio. Dywedodd, “Mae ein Offeryn Ôl-troed Ynni yn hanfodol i ni wrth gyrraedd ein huchelgais sero net fel Eglwys. Yn ogystal â chyfrif ôl-troed carbon unrhyw adeilad eglwys yn syth pan roddir ei data defnydd ynni, bydd hefyd yn ein galluogi i ddynodi a bod yn fwy effeithiol wrth dargedu ein hadeiladau sy’n defnyddio llawer o ynni. Rwy’n annog pob clerigwr a’r gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am filiau cyfleustodau i ddefnyddio’r Offeryn Ôl-troed Ynni a dangos ein bod i gyd yn ofalus am ein defnydd o’r adnoddau a roddwyd i ni gan Dduw.”
Bydd pob eglwys yn derbyn cyfrinair unigryw, drwy e-bost gan Hyrwyddwr yr Eglwys ar Newid Hinsawdd, Dr Julia Edwards, i’w galluogi i gofrestru a defnyddio’r Offeryn Ôl-troed Ynni. Unwaith fod hynny ganddynt, gallant gael mynediad i’r Offeryn.
Gall clerigwyr neu wirfoddolwyr hefyd roi data ar gyfer adeiladau ar wahân, tebyg i neuaddau eglwys, lle mae ganddynt eu biliau cyfleustod ar wahân eu hunain.
Dywedodd Dr Edwards, “Unwaith y byddwch wedi defnyddio’r Offeryn Ôl-troed Ynni a’ch bod yn gwybod beth yw eich ôl-troed carbon, gallwch gymharu defnydd ynni eich eglwys gydag eglwysi eraill o faint tebyg, cynnwys yr wybodaeth ôl-troed mewn unrhyw gais neu gyllid Eglwys Eco, a bydd yr offeryn yn eich helpu i dargedu camau gweithredu sero net penodol a mesurau gostwng carbon ar gyfer eich eglwys.”