Cynnig bwrsariaeth i weithwyr y GIG a gweithwyr gofal i fynd ar encil
Caiff staff blinedig gofal iechyd eu cyllido i fynd ar encil fel seibiant o’u gwaith yn ystod y pandemig.
O dderbynwyr i ymgynghorwyr, gall holl weithwyr y GIG a gweithwyr gofal gael hanner cost encil wedi’i dalu, diolch i gynllun bwrsariaeth sydd newydd ei ymestyn i’r haf nesaf.
Mae Tŷ Encil Llangasty, a gefnogir gan esgobaethau Llandaf ac Abertawe ac Aberhonddu, yn un o’r canolfannau encil sy’n cynnig y cynllun gan Gymdeithas Hyrwyddo Encilion (APR). Yng nghanol Bannau Brycheiniog, mae Llangasty yn cynnig golygfeydd godidog a heddwch a thawelwch am unrhyw un sy’n dymuno canolbwyntio ar eu llesiant personol.
Sefydlwyd y cynllun bwrsariaeth fel ffordd o ddweud “diolch yn fawr” i’r rhai ar reng flaen iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Prydain. Mae dros 150 o bobl wedi manteisio hyd yma, yn cynnwys meddygon, nyrsys, caplaniaid, parafeddygon, cydlynwyr iechyd meddwl, seicolegwyr a rheolwyr prosiect.
Mae’r bwrsariaethau yn talu am hanner cost encil, hyd at uchafswm o £150, tan fis Mehefin 2022. Nid oes meini prawf ar gymhwyster ariannol. Gall pobl ymuno fel unigolion neu fel grwpiau.
Dywedodd Sheila Cotterill, rheolwr Tŷ Encil Llangasty: “Mae hwn yn un o’r ymatebion mwyaf creadigol a welais i’r pandemig ac ymddengys yn neilltuol o amserol ar hyn o bryd wrth i ni glywed rhybuddion gwae am y pwysau fydd ar y GIG dros y gaeaf.
“Mae’n bwysig fod y gweithwyr allweddol hyn hefyd yn gofalu amdanynt eu hunain ac yn cymryd amser allan i ganolbwyntio ar eu llesiant eu hunain. Gobeithiwn yr aiff y fwrsariaeth beth o’r ffordd i’w galluogi i gamu’n ôl, myfyrio dros y 18 mis diwethaf a chael cyfle i gael ail wynt ar gyfer y dyddiau sydd i ddod.”
“Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn hysbysu pobl am y cynllun hwn ac ystyried cyfrannu’n uniongyrchol i APR ar gyfer y diben hwn.”
Gwnewch gais heddiw
Mae gwybodaeth, ffurflenni cais a’r holl delerau ac amodau ar gael ar wefan APR, www.promotingretreats.org/nhs-bursaries neu drwy gysylltu â Sheila yn Nhŷ Encil Llangasty :
- enquiries@llangasty.com
- 01874 659250
- Tŷ Encil Llangasty | enciliau, cynadleddau a grwpiau astudio | Cartref | Llangasty, Aberhonddu
Hyrwyddo’r cynllun
Poster bwrsariaeth encil
Lawrlwytho