Hysbysiad o gyfarfod y Synod Sanctaidd
Ar 19 Medi 2019 etholodd Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru yr Hybarch Cherry Elizabeth Vann, Archddiacon Rochdale yn Esgobaeth Manceinion a Thalaith Caerefrog, yn Esgob Mynwy.
Mae Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn ei gwneud hi’n ofynnol bod pob penodiad esgobol trwy etholiad yn cael ei gadarnhau gan gyfarfod esgobion yn yr esgobaeth dan sylw mewn Synod Sanctaidd. Dyma sydd i hysbysu y bydd yr esgobion yn cyfarfod i gadarnhau ethol Cherry Vann yn Esgob Mynwy yn y Synod Sanctaidd yn Eglwys Gadeiriol a Metropolitaidd Sant Ioan yr Efengylydd, Aberhonddu, ddydd Sul 5 Ionawr 2020 am 3:30pm.
Cyfarfod cyhoeddus yw hwn ac os hoffai unrhyw aelod o’r Eglwys yng Nghymru dynnu sylw’r esgobion at unrhyw fater ynglŷn â’r etholiad esgobol hwn, mae croeso iddynt fynychu’r cyfarfod yn bersonol.
Y Parchedicaf John Davies
Archesgob Cymru