Hysbysiad o gyfarfod y Synod Sanctaidd
Ar 19 Ionawr 2024 cyhoeddais fy mwriad i benodi’r Parchedig Ganon David Thomas Morris yn Esgob Cynorthwyol yn Esgobaeth Bangor.
Mae Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn ei gwneud hi’n ofynnol bod y penodiad hwn yn cael ei gadarnhau gan gyfarfod esgobion yr esgobaethau mewn Synod Sanctaidd, a dyma sydd i hysbysu y bydd yr esgobion yn cyfarfod mewn Synod Sanctaidd i gadarnhau ethol y Parchedig Ganon David Thomas Morris yn Esgob Cynorthwyol yn Esgobaeth Bangor, yng Nghadeirlan Casnewydd, ddydd Mercher 17 Ebrill am 6pm.
Cyfarfod cyhoeddus yw hwn ac os hoffai unrhyw aelod o’r Eglwys yng Nghymru dynnu sylw’r esgobion at unrhyw fater ynglŷn â’r etholiad esgobol hwn, mae croeso iddynt fynychu’r cyfarfod yn bersonol.
Y Parchedicaf Andrew John
Archesgob Cymru