Nawr mae'r llafn gwyrdd yn codi - ffyrdd i feithrin natur
Efallai fod y gwanwyn yn ymddangos yn hir yn cyrraedd eleni ond mae’r dyddiau’n awr yn ymestyn ac yn cynhesu ac mae’n amser i fwynhau a dathlu’r natur o’n cwmpas.
Mae llawer o’n heglwysi yn paratoi digwyddiadau gyda’u ffocws ar yr amgylchedd yn y misoedd nesaf. Dyma’r amser i gymryd rhan neu gynllunio eich digwyddiad eich hun.
Dyma rai o’r cynlluniau yr ydym yn eu cefnogi.
Eglwysi yn Cyfri Natur ac wythnos Caru eich Mannau Claddu – 8-16 Mehefin
Mae’r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar y trysorau naturiol sef mynwentydd ein heglwysi a mannau claddu. Caiff pobl o bob oed eu hannog i gymryd rhan mewn astudiaeth bioamrywiaeth i gyfri’r gwahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid y gallant ddod o hyd iddynt.
Gan fod mynwentydd eglwysi fel arfer yn ddarnau o dir nad oes tarfu arnynt ac nad ydynt yn cael eu hamaethu, gallant fod yn gartref amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt nad ydynt i’w gweld mewn mannau gwyrdd eraill, yn arbennig mewn ardaloedd trefol. Yn aml mae gan hen fynwentydd eglwysi dir glas toreithiog mewn blodau a rhywogaethau, gan mai ychydig iawn o darfu fu arnynt dros y canrifoedd.
Cefnogir yr wythnos gan elusennau amgylcheddol A Rocha UK a Caring for God’s Acre, yn ogystal â’r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Lloegr.
Cynhaliwyd 36 digwyddiad yng Nghymru y llynedd a byddai’n wych pe gellid cynnal mwy eleni.
Gallwch gofrestru eich digwyddiad neu weithgaredd, cael gwybodaeth am bethau eraill sy’n digwydd ar draws y wlad a chael mynediad i adnoddau defnyddiol, yn cynnwys gweminarau defnyddiol a chynghorion technegol ar wefan Caring for God’s Acre. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, anfonir pecyn atoch fydd yn helpu i adnabod rhywogaethau (mae fersiynau Cymraeg hefyd ar gael).
Mae’n ffordd wych a llawn hwyl i gynnwys plant a phobl ifanc (efallai yr ysgol leol neu grwpiau iwnifform) gan eu bod bob amser wrth eu bodd gyda helfa clêr
Yr Wythnos Fawr Werdd – 8-16 Mehefin
Mae’r Wythnos Fawr Werdd, hefyd 8-16 Mehefin, yn ymgyrch genedlaethol i ddathlu gweithgareddau cyfeillgar i’r amgylchedd tra’n codi ymwybyddiaeth o’r angen brys i ni gyd weithredu ar yr hinsawdd.
Mae llawer o adnoddau, templedi a dylunwaith y gallwch eu defnyddio ac mae cyllid hefyd ar gael. Mae’n bwysig cofrestru eich digwyddiad fel y gall pobl leol a’r cyfryngau weld beth sy’n digwydd a mynychu.
Gallech uno gydag eglwysi eraill a rhoi cynnig ar y cyd am gyllid mewn ardal – efallai ar gyfer o ddigwyddiadau mewn gwahanol fannau eglwysi er enghraifft.
Ewch i wefan Climate Cymru yma i gael mwy o fanylion.
Gwobrau Eglwysi Gwyrdd
Os yw’ch eglwys wedi bod yn weithgar gyda digwyddiadau amgylcheddol, ystyriwch gyflwyno cais i Wobrau Eglwysi Gwyrdd 2024 Church Times. Nod y gwobrau yw dathlu gwaith hynod unigolion a chynulleidfaoedd i wrthbwyso’r difrod a gaiff ei wneud i’r ddaear, a gosod esiampl dda i eraill a allai gael eu hysbrydoli i wneud yr un modd.
Mae saith categori i ddewis o’u plith – felly edrychwch ar y wefan a chael cydnabyddiaeth i’ch llwyddiannau. Y dyddiad cau yw 30 Mehefin.
Lleoedd Lleol Ar Gyfer Natur
Llawer o syniadau ond fawr o adnoddau? Gallwch wneud cais am becynnau garddio am ddim gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a gaiff ei redeg gan Cadwch Cymru’n Daclus. Mae’n brosiect gwych y mae llawer o eglwysi eisoes wedi manteisio ohono, ond mae’r trefnwyr yn awyddus i gael mwy o eglwysi ledled Cymru i gymryd rhan.