Diwrnod Agored i archwilio cyfleoedd gweinidogaeth yn Esgobaeth Bangor
Mae Esgobaeth Bangor yn cynnal Diwrnod Agored Gweinidogaeth lle gall clerigwyr a lleygwyr ordeiniedig archwilio'r cyfleoedd gweinidogaeth cyffrous sydd ar gael ar draws yr esgobaeth.
Mae Diwrnod Agored y Weinidogaeth yn gyfle i glywed mwy am weledigaeth Esgobaeth Bangor a'r cyfleoedd mewn gweinidogaeth sydd ar gael. Bydd clerigion a lleygwyr yn clywed gan Archesgob Cymru ac Esgob Bangor am fywyd yn yr esgobaeth ac yn cyfarfod â phobl eraill sy'n gweinidogaethu ar draws yr esgobaeth mewn amrywiaeth o swyddogaethau. Bydd cyfleoedd hefyd i ymweld ag eglwysi ac Ardaloedd Gweinidogaeth i ddarganfod hanes unigryw a diwylliant dwyieithog Gogledd-orllewin Cymru.
Meddai Archddiacon Bangor David Parry, sy'n trefnu'r digwyddiad, "Ein Diwrnod Agored Gweinidogaeth yw'r cyntaf o'i fath yn yr Eglwys yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o fod yn penodi nifer o rolau amrywiol mewn gweinidogaeth ordeiniedig a lleyg diolch i'n buddsoddiad cynyddol mewn gweinidogaeth ar draws yr esgobaeth.
"Mae Esgobaeth Bangor yn lle gwych i wasanaethu ac rwy'n gwahodd clerigwyr a lleygwyr o esgobaethau eraill i'n diwrnod agored i weld popeth sydd gennym i'w gynnig."
Meddai'r Canon David Morris, Cyfarwyddwr Gweinidogaeth, "Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd amrywiol o fewn gweinidogaeth ar gyfer clerigion lleyg ac ordeiniedig. Os oes gennych alwad i weinidogaeth arloesi, cariad dros gyfiawnder cymdeithasol, awydd i dyfu ein llwybrau pererinion hynafol, neu os ydych yn dymuno rhannu arweinyddiaeth yn un o'n Ardaloedd Gweinidogaeth, yna mae Esgobaeth Bangor ar eich cyfer chi."
Cynhelir Diwrnod Agored y Weinidogaeth ddydd Sadwrn 4 Tachwedd 2023 rhwng 10.30am a 4pm yng Nghanolfan Rheolaeth Bangor, Prifysgol Bangor. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma