Agor ein Bywydau – taith Grawys
Ar ôl bron flwyddyn o gyfnodau clo, agor ein bywydau yw thema llyfr newydd ar gyfer y Grawys, a argymhellir gan Archesgob Cymru.
Llyfr o ddarlleniadau defosiynol ymarferol dyddiol yw Opening Our Lives sy’n edrych ar sut y gallwn ni agor ein bywydau i Dduw. Fe’i hysgrifennwyd gan ficer a thiwtor yn yr Eglwys yng Nghymru i arwain pobl trwy’r Grawys. Y Grawys, sy’n cychwyn eleni ar 17 Chwefror, yw’r cyfnod o chwe wythnos sy’n arwain at y Pasg ac yn draddodiadol mae’n gyfnod i fyfyrio.
Mae’r llyfr yn canolbwyntio ar thema wahanol o ran agor ein bywydau bob wythnos: agor ein llygaid i bresenoldeb Duw, ein clustiau i’w alwad, ein calonnau i’w gariad, ein ffyrdd i’w ewyllys, ein gweithredoedd i’w drugaredd a’n poen i’w hedd.
Dr Trystan Hughes, ficer Eglwys Crist, Parc y Rhath, Caerdydd a Chanon Ddiwinydd Cadeirlan Llandaf yw’r awdur, ac mae’n diwtor mewn diwinyddiaeth ymarferol yn Athrofa Padarn Sant ac yn uwch ddarlithydd mygedol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ysgrifennodd Trystan y llyfr yn ystod y cyfnod clo ac mae pob myfyrdod byr wedi ei wreiddio yn ei brofiad a’i sylwadau ei hun - fel tad, mab, gŵr a brawd ac fel rhywun sydd wedi profi poen a wynebu amseroedd anodd – yn ogystal â’r ysgrythur.
Ei nod, dywedodd, yw ysbrydoli pobl i ddod o hyd i Dduw ar amser heriol trwy gymryd agwedd newydd ffres tuag at y Grawys.
“Trwy ysgrifennu Opening Our Lives rwyf am ysbrydoli darllenwyr i ddod o hyd i Dduw ym mhob rhan o’u bywydau - mewn eiliadau o dawelwch, wrth gerdded yng nghefn gwlad, mewn cyfnodau sy’n cael eu treulio gyda’r teulu, mewn gwaith a diddordebau, ac hyd yn oed wrth wylio’r teledu ar fin nos,” meddai Trystan.
“Wrth i ddarllenwyr ystyried y myfyrdodau dyddiol ac yna byw’r awgrymiadau ymarferol sy’n cael eu rhoi bob dydd, rwy’n gobeithio y bydd y llyfr yn rhoi’r diben a’r ysbrydoliaeth i bobl yn y cyfnod heriol ac anodd hwn.
Eleni, fe fyddai’n wych symud y Grawys oddi wrth bod yn gyfnod i ddim ond ‘stopio gwneud pethau’ i fod yn gyfnod o ‘ddechrau agor’ - wrth i ni agor ein bywydau ein hunain, yn ogystal â bywydau’r rhai sydd o’n cwmpas, i heddwch, gobaith, llawenydd, a thrugaredd Duw.”
Mynegodd Archesgob Cymru, John Davies, ei gefnogaeth i’r llyfr. Meddai, “Mae Trystan yn cynnig deunydd ar gyfer pob diwrnod yn y Grawys hyd at y Pasg, gan ddefnyddio llenyddiaeth, diwinyddiaeth, yr ysgrythur a digwyddiadau hawdd eu gwerthfawrogi o’i fywyd dyddiol ei hun a bywydau pobl eraill. Rwy’n diolch iddo am y gwaith y mae wedi ei wneud i gynnig adnodd mor hygyrch, ysgogol a newydd ac rwy’n hapus i’w argymell fel darlleniad yn ystod y Grawys i unigolion a grwpiau.”
Bydd myfyrdodau dyddiol o Opening Our Lives yn cael eu rhannu bob dydd yn ystod y Grawys ar dudalen Facebook yr Eglwys yng Nghymru @ChurchinWales
Cyhoeddir y llyfr gan y Bible Reading Fellowship a dyma lyfr y Grawys ar gyfer eleni.
Dyma’r chweched llyfr i Trystan ei gyhoeddi. Ddeng mlynedd yn ôl dewiswyd ei lyfr Finding Hope and Meaning in Suffering fel Llyfr y Grawys Archesgob Cymru ac yn 2013, ei lyfr Real God in the Real World oedd Llyfr Adfent swyddogol y Bible Reading Fellowship.
Opening Our Lives – Devotional Readings for Lent
Archebu ar-lein