Mapiau ffiniau plwyfi yn mynd yn ddigidol
Mae mapiau ffiniau plwyfi yn mynd yn ddigidol ar draws Cymru am y tro cyntaf mewn prosiect sylweddol sy'n anelu i wella'r ffordd mae eglwysi'n gwasanaethu eu cymunedau.
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn buddsoddi yn y prosiect i greu map digidol cyflawn o'r holl wlad, yn cynnwys ffiniau ei holl blwyfi ac ardaloedd gweinidogaeth. Caiff y mapiau wedyn eu ddefnyddio i fodelu tueddiadau demograffig penodol i bob ardal.
Bydd y prosiect yn darparu data allweddol i arweinwyr yr eglwys am bobl yn eu hardaloedd - tebyg i'w proffil oedran, lefel addysg a statws cyflogaeth - gan eu galluogi i deilwra eu gwasanaethau yn unol â hynny. Gallai hynny olygu sefydlu mwy o fanciau bwyd neu ganolfannau dyled yn yr ardaloedd tlotaf neu ymestyn cynlluniau, tebyg i Eglwys Anniben a chlybiau ar ôl ysgol mewn lleoedd lle mae nifer uchel o blant.
Bydd y data a gesglir hefyd yn rhoi gwell cyd-destun ar gyfer ystadegau aelodaeth yr Eglwys yng Nghymru a helpu i lywio penderfyniadau am y ffordd orau i gefnogi cynulleidfaoedd.
Gwneir y gwaith mapio gan Exegis, asiantaeth Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS), gyda Byddin yr Eglwys yn darparu'r meddalwedd data. Cefnogir y prosiect gan Ymddiriedolaeth Allchurches gyda grant o £14,500.
Dywedodd Simon Lloyd, Ysgrifennydd Taleithiol yr Eglwys yng Nghymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Allchurches am y grant hwn tuag at ein prosiect mapio digidol. Mae hwn yn brosiect cyffrous fydd am y tro cyntaf yn rhoi darlun digidol cyflawn i ni o'n plwyfi, cenhadaeth ac ardaloedd gweinidogaeth. Bydd yn galluogi ysgolion i wella eu cenhadaeth a'u gweinidogaeth gan y gallant weld ble mae'r angen mwyaf ac ymateb yn y ffordd fwyaf effeithlon. Gan bod yr Eglwys yng Nghymru yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni, bydd y prosiect yn rhoi'r dulliau diweddaraf i ni ar gyfer helpu i adeiladu ein dyfodol."
Dywedodd Rachel Whittington, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Allchurches: "Bydd y prosiect hwn yn hollbwysig wrth ddarparu data fydd yn galluogi ysgolion yng Nghymru i dargedu eu gweithgareddau ac adnoddau gwerthfawr. Bydd yn helpu i sicrhau y gallant ymateb yn y ffordd fwyaf effeithlon i anghenion eu cymunedau a llunio strategaethau cenhadaeth fydd yn hyrwyddo twf yr eglwys a gweithredu cymdeithasol - o ran nifer y bobl a gaiff eu cyrraedd a hefyd y bywydau yr effeithir arni."