Plwyfi yn paratoi ar gyfer digwyddiad bioamrywiaeth ‘gwyddoniaeth dinesydd’ torfol
Mae eglwysi a chadeirlannau ym mhob rhan o’r wlad yn paratoi ar gyfer digwyddiad blynyddol Eglwysi’n Cyfrif Natur.
Bydd y digwyddiad ‘gwyddoniaeth dinesydd’ – a gynhelir rhwng 4-12 Mehefin – yn croesawu pobl i fynwentydd a’u hannog i gofnodi pa anifeiliaid a phlanhigion a welant. Caiff y data hwnnw wedyn ei gadw ar hyb cofnodion biolegol y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.
Trefnwyd mwy na 540 o weithgareddau a digwyddiadau gan eglwysi ar draws y wlad y llynedd. Cyflwynodd pobl 17,232 cofnod o ddata ar fywyd gwyllt a welsant, gan gofnodi 1,700 rhywogaeth.
Caiff Eglwysi’n Cyfrif Natur ei redeg ar y cyd gan elusennau cadwraeth A Rocha UK, Caring for God’s Acre ynghyd ag Eglwys Lloegr a’r Eglwys yng Nghymru.
Cynhelir digwyddiad eleni yn ystod yr un wythnos ag Wythnos Caru eich Mynwent (4-12 Mehefin).
Mae Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy, esgob arweiniol yr Eglwys yng Nghymru ar yr amgylchedd, yn annog pobl i gymryd rhan. Dywedodd, “Wrth i’r Eglwys yng Nghymru weithio tuag at ei darged sero-net, mae Eglwysi’n Cyfrif Natur yn weithgaredd rhwydd a hwyliog i bobl o bob oed gymryd rhan ynddo.
“Mae’n gyfle i ddysgu am a gwerthfawrogi’r byd gwerthfawr sydd ar garreg ein drws a gwireddu ein cyfrifoldeb dros ei feithrin a’i ddiogelu.
“Gobeithiaf y bydd ein holl eglwysi gyda mynwentydd yn cofrestru ac yn cymryd rhan eleni ac yn cofnodi pa drysorau o’r byd naturiol a welant.
Gweld y rhyfeddol, darganfod y prin a mwynhau cofnodi’r holl blanhigion ac anifeiliaid a welwch.”
Mae Graham Usher, Esgob Norwich ac esgob arweiniol yr Eglwys yng Nghymru dros yr amgylchedd, wedi annog eglwysi i ddechrau paratoi.
Dywedodd, “Mae mynwentydd a gerddi yn gartref anhygoel i fioamrywiaeth, gan roi miloedd o erwau o werddonau glas ym mhob cymuned yn y wlad. Y llynedd, roedd cannoedd o blwyfi wedi cael eu cymuned leol i chwilio am bryfed a phlanhigion yn eu gofodau agored.
“Mae hon yn rhaglen gwaith maes gwych, ac mae hefyd yn helpu’r rhai sy’n gweithio ar yr amgylchedd i ddeall ein byd naturiol yn well.
Y llynedd, defnyddiodd llawer o eglwysi Eglwysi’n Cyfrif Natur fel cyfle i ymestyn allan i’w cymuned leol.
Er enghraifft, ymunodd pobl o’r gymuned gyda phlwyfolion ym Mynwent Llandygwydd ger Aberteifi i osod maglau gwyfynod a dechrau chwilio am ystlumod dros ddeuddydd. Dywedodd y trefnydd, y Parch Anne Beman, i tua 20 o bobl gymryd rhan, yn cynnwys plant. “Roeddem yn ffodus i weld tua 30 o ystlumod hirglust yn gadael eu man clwydo yn yr eglwys. Cawsant eu hadnabod yn nes ymlaen gan eu baw. Ar y bore Sadwrn buom yn archwilio’r maglau gwyfynod a gweld rhai rhywogaethau hardd iawn gyda enwau diddorol gwych fel rhisgl y cen, y llwyd ffawydd a’r gwyfyn gwythïen goch. Yna fe wnaethom ddechrau arolwg manwl o’r mynwentydd. Roedd yn llwyddiannus iawn a fedrem ni ddim bod wedi ymdopi heb help a gwybodaeth yr aelodau o grwpiau bywyd gwyllt.”
Dywedodd Andy Lester o A Rocha UK, “Mae Eglwysi’n Cyfrif Natur yn gyfle unigryw i’r rhai sy’n hoff o fynwentydd a gofodau eglwys i gymryd rhan yn y cyfrifiad natur mwyaf erioed.
“Gyda natur yn dal i ddirywio yn genedlaethol, bydd y cyfrifiad hwn yn rhoi data gwerthfawr ar yr hyn sy’n digwydd i fywyd gwyllt.
“Yn ei dro bydd hyn yn ein helpu i weithio ar y cyd i gymryd camau wedi eu targedu ar gyfer adferiad natur.”
Dywedodd Harriet Carty, Cyfarwyddwr Caring for God’s Acre, “Rydym yn falch iawn i fod yn rhan o drefnu Eglwysi’n Cyfrif Natur eto.
“Drwy gynlluniau fel hwn rydym yn dod i ddysgu mwy am bwysigrwydd mynwentydd a mannau claddu eraill fel llochesau ar gyfer natur. Gyda mwy na 20,000 ar draws Lloegr a Chymru ni fu’r lleoedd arbennig hyn erioed yn hafanau mor hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt.”
Eglwysi’n Cyfrif Natur
Cofrestru i gymryd rhan