Cynhadledd Porvoo yn archwilio’r bywyd Ewcharistaidd
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn aelod o Gymundeb Eglwysi Porvoo a mynychodd tri o’n clerigion yr ymgynghoriad diweddar yn Madrid er mwyn archwilio’r thema ‘Bywyd yn yr Ewcharist’. Dyma eu myfyrdodau.
Cymdeithas o eglwysi Anglicanaidd a Lutheraidd yw Cymundeb Eglwysi Porvoo, eglwysi sy’n ymrwymo i “fywyd cyffredin o genhadaeth a gwasanaeth.” Mae’r eglwysi sy’n aelodau yn ymroi i weddïo dros ei gilydd, i gefnogi ei gilydd ac i uno drwy ymdeimlad o gydberthyn i’w gilydd yng Nghrist a chydgyfrannu yng ngwaith cymodol Crist.
Yn Hydref 2023, cyfarfu cynrychiolwyr o eglwysi’r Cymundeb yn Madrid, Sbaen, er mwyn archwilio’r thema ‘Bywyd yn yr Ewcharist’. Yn eu mysg oedd tri chynrychiolydd o’r Eglwys yng Nghymru, sef y Canon Dr Ainsley Griffiths (Cyfarwyddwr Ffydd, Trefn ac Undod), y Canon Andrea Jones (Arweinydd Ardal Genhadol y Gororau a Chanon Genhadwraig Eglwys Gadeiriol Tyddewi), a’r Dr Jordan Hillebert (Cyfarwyddwr Ffurfiant yn y Weinidogaeth, Athrofa Padarn Sant).
Y Gwir Barchedig Carlos López Lozano, Esgob Madrid yn Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen, oedd yn cynnal y cyfarfod ac yn croesawu. Yn ogystal â chynnig lletygarwch cynnes drwy gydol yr wythnos, llywyddodd yr Esgob Carlos yr Offeren agoriadol a chyflwynodd i’r cynrychiolwyr drysorau litwrgaidd Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen, eglwysi sy’n arfer y ddefod ewcharistaidd Mosarabaidd hynafol mewn ffordd greadigol. Trefnodd yr Esgob Carlos hefyd daith i Toledo, dinas ag arwyddocâd hanesyddol a chrefyddol i Gristnogion, Mwslimiaid ac Iddewon. Tra yn Toledo cyfarchwyd y cyfranogion gan y Monsignor Francisco Cerro Chaves, Archesgob Metropolitan Toledo a Phrimas Sbaen.
Roedd yna argyhoeddiad cyffredin bod yr Ewcharist yn ganolbwynt i weinidogaeth a chenhadaeth yr Eglwys mewn oes seciwlar.
Trwy gydol y sesiynau roedd y cyfranogwyr yn trafod beth yw ystyr byw bywyd sacramentaidd mewn cymundeb yn Ewrop seciwlar yr 21ain ganrif. Yn ôl Jordan, “roedd yn fraint anhygoel i feddwl gyda, ac i ddysgu oddi wrth, frodyr a chwiorydd mewn cyd-destunau amrywiol ac o gymunedau eglwysig gwahanol. Roedd yna argyhoeddiad cyffredin ymhlith yr aelodau am bwysigrwydd canolog yr Ewcharist yng ngweinidogaeth a chenhadaeth yr Eglwys mewn oes seciwlar, a chafwyd ysbrydiaeth wrth glywed sut mae’r argyhoeddiad hwnnw wedi siapio’r ffordd y mae’r amrywiol aelodau’n ymwneud â disgyblaeth ac efengylu.
Yn bwysicach, strwythurwyd yr wythnos yn ôl ein cydaddoli a’n gweddi gyffredin. Gan ddenu ar adnoddau litwrgaidd Eglwys Esgobol yr Alban, yr Eglwys Latfiaidd Fyd-Eang, Eglwys Lutheraidd Efengylaidd Denmarc, Eglwys Lwsitanaidd Portiwgal, ac Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen, gweddïodd y cyfranogwyr dros weinidogaethau ei gilydd, a thros waith Teyrnas Dduw yn eglwysi Cymundeb Porvoo. Yn ôl Andrea, “Roedd gwreiddio popeth a ddysgom ni, a’r cwbl y myfyriom ni arno, mewn addoliad yn hollbwysig a chawsom ni oll ein hadfywio drwy rannu mewn addoliad â chyfranogwyr o draddodiadau amrywiol.”
Gan fyfyrio ar yr wythnos gyfan, nododd Ainsley fod “bod yn aelod eglwys o Gymundeb Porvoo yn gosod ein taith gyffredin tuag at undod yng Nghrist o fewn cyd-destun disglair, deinamig a rhyngwladol ble mae ein cymdeithas ewcharistaidd a’r gallu i gyfnewid gweinidogaethau ordeiniedig yn gyflawniadau i’w trysori. Gallwn ddysgu llawer o’n hundeb fel Anglicaniaid a Lutheriaid sy’n cefnogi ac yn adfywio ein hymrwymiadau eciwmenaidd yma yng Nghymru wrth i’r Eglwys yng Nghymru geisio cysylltiadau dyfnach â Christnogion sydd wedi eu gwahanu oddi wrthym oherwydd gwahaniaeth o ran hanes, diwinyddiaeth ac eglwysoleg. Roedd cyfarfod eleni mewn gwlad Gatholig Rufeinig fwyafrifol yn dod â gwahanol bersbectifau ac, yn flaenllaw yn eu plith, yr her i egluro ein dealltwriaeth a’n harferiad o ran yr Ewcharist, gan obeithio y byddwn, ryw ddydd, yn dod yn un corff cyflawn, wedi ei ffurfio trwy rannu corff toredig yr Arglwydd, yr un sydd wedi dod drosom ni yn Fara’r Bywyd.”
- Darganfod mwy am Cymundeb Eglwysi Porvoo