Disgyblion yn cael yr efengyl yn eu poced i nodi pedwar canmlwyddiant cyfieithiad
Bydd pob plentyn yn Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yng ngogledd ddwyrain a chanolbarth Cymru yn derbyn rhodd gan Esgob Llanelwy i ddathlu gwaith cyfieithwyr y Beibl, fwy na 400 mlynedd yn ôl.
Mae’n rhan o gynlluniau gan Esgobaeth Llanelwy i nodi 400 mlwyddiant cyfieithiad 1621 Edmwnd Prys o’r Salmau i’r Gymraeg i’w canu yn gynulleidfaol. Ganed Prys a saith o’r wyth o gyfieithwyr y Beibl yn Esgobaeth Llanelwy ac fe’u coffeir ar gofeb y tu allan i Gadeirlan Llanelwy.
Mewn partneriaeth â Chynghrair Testamentau Poced y Deyrnas Unedig, elusen sy’n hyrwyddo a dosbarthu Efengyl Sant Ioan, mae Esgob Llanelwy wedi comisiynu argraffiad arbennig o’r Efengyl yn y Gymraeg a’r Saesneg i’w roi i’r 6,000 o ddisgyblion ysgolion yr eglwys. Yn y llyfr mae rhagair gan y Gwir Barchedig Gregory Cameron a gwybodaeth yn esbonio pwysigrwydd cyfieithwyr y Beibl.
Dywedodd yr Esgob Gregory, “Cred Cristnogion bod y Beibl yn cynnwys neges Duw i ddynoliaeth, wedi ei chrynhoi ym mherson Iesu Grist. Mae stori cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn hanes rhyfeddol am y ffordd y gall pobl gyflawni rhywbeth mawr trwy eu hymrwymiad ar y cyd a’u dymuniad i sicrhau bod stori Iesu ar gael yn fwy eang. Mae stori’r cyfieithu yn rhan fawr o’n stori ni hefyd, ac mae ei gwreiddiau yma yn esgobaeth Llanelwy.
“Cydnabyddir bod gwaith William Morgan, Edmwnd Prys a’r holl gyfieithwyr yn gamp fawr, a effeithiodd ar iaith, cymdeithas, diwylliant a hunaniaeth pobl Cymru.
“Roedd cyhoeddi’r Beibl Cymraeg yn golygu y gallai pobl glywed a darllen hanes cariad Duw yn cael ei ddatgelu yn Iesu Grist drostynt eu hunain, yn iaith eu calonnau.”
Crëwyd clawr arbennig ar gyfer y llyfrau, a fydd yn cael eu dosbarthu i’r 51 o ysgolion eglwys yn esgobaeth Llanelwy cyn i’r Eglwys yng Nghymru ddathlu Edmwnd Prys ar 15 Mai.
Dathliadau ar-lein
Bydd gwasanaeth ar-lein yn dathlu’r gwaith a wneir gan ysgolion yr eglwys i ymchwilio i fywyd a gwaddol y cyfieithwyr i gyd ar gael i’w gwylio o ddydd Mercher 12 Mai. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys Esgob Llanelwy a Deon Cadeirlan Llanelwy yn ogystal â cherddoriaeth wedi ei recordio a chanu o ysgolion ar draws Esgobaeth Llanelwy.
Mae’r gwasanaeth yn benllanw i’r gwaith a wnaed gan ysgolion ar draws yr esgobaeth yn ymchwilio i hanes ac arwyddocâd cyfieithwyr y Beibl. Dyfeisiodd y swyddog ysgolion yn Esgobaeth Llanelwy, Jennie Downes, y rhaglen addysgu gyda’r Cydlynydd Gweithgareddau yng Nghadeirlan Llanelwy, Lorna Kernahan. Dywedodd Jennie, “Roedd cyfieithu’r Beibl cyfan i’r Gymraeg yn allweddol i gadw’r Gymraeg yn fyw a’i ffyniant. Mae ein hysgolion wedi bod yn ymchwilio i fywyd a gwaddol pob cyfieithydd ac yn edrych ar yr effaith y maent wedi ei gael ar Gymru.
“Mae hanes y cyfieithwyr yn cyd-fynd mor dda â’r ffordd o ddysgu sy’n cael ei meithrin gan y cwricwlwm newydd yng Nghymru. Rhoddir anogaeth i’r disgyblion ymchwilio i’r stori a dadlennu elfennau ohoni eu hunain ac ystyried sut y mae hyn yn cysylltu â’u bywydau hwy heddiw.
“Ochr yn ochr â hyn, mae pum ysgol wedi bod yn gweithio o bell gyda’r artist lleol, Juliet Staines, ar ddarn o gelfyddyd i goffau fydd yn cael ei arddangos yng Nghadeirlan Llanelwy.”