Esgobion yn annog rhoi cyfiawnder wrth galon trafodaethau hinsawdd
Cyn cynnal ralïau hinsawdd y penwythnos hwn, mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn galw am i gyfiawnder i genhedloedd tlotach fod wrth galon canlyniad uwch-gynhadledd COP27.
Dywedant fod gan wledydd cyfoethog “gyfrifoldeb moesol” i helpu’r gwledydd hynny sydd fwyaf mewn angen fel canlyniad i newid hinsawdd.
Mae’r datganiad llawn yn dilyn.
Yng Nghymru, mae’r Gynghrair Cyfiawnder Hinsawdd yn cynnal ralïau yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerfyrddin a Chaernarfon.
- Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://climatejustice.uk/cop27/
Mae Cymorth Cristnogol wedi paratoi addnoddau ar gyfer eglwysi ar gyfer gweithredu ar Golled a Difrod
Datganiad yr Esgobion ar COP 27
Y penwythnos hwn tra bod arweinwyr y byd yn trafod newid hinsawdd yn uwch-gynhadledd COP 27 yn yr Aifft, bydd pobl yng Nghymru a gwledydd eraill yn ymuno mewn ralïau cyhoeddus yn galw am gyfiawnder hinsawdd.
Mae cyfiawnder ymysg y gwerthoedd sydd wrth galon y ffydd Gristnogol ac mae’n egwyddor a gredwn sy’n allweddol i uwch-gynhadledd eleni. Bydd newid hinsawdd yn effeithio arnom i gyd ond mae eisoes yn cael effaith enfawr ar lawer o genhedloedd tlotaf y byd. Mae hyn yn anghyfiawn. Mae’r rhai y mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio mwyaf arnynt yn talu cost drom yr ydym i gyd yn gyfrifol amdani, ac eto hwy yw’r lleiaf galluog i ysgwyddo’r pwysau. Mae cyfrifoldeb moesol clir ar y rhai ohonom mewn gwledydd a ddaeth yn gyfoethog oherwydd diwydiant i rannu’r baich hwnnw drwy dalu i unioni colled a difrod sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.
Ein gobaith a’n gweddi ar gyfer uwchgynhadledd hollbwysig COP eleni yw y bydd cyfiawnder yn drech ac y caiff yr angen i ddarparu cyllid newydd a theg ar gyfer cenhedloedd sy’n fregus i’r hinsawdd ei gydnabod.
Mae cyfle yn dal i fod i ni droi’r llanw, ond mae angen i bob cenedl gydweithio yn gyfiawn i arbed y blaned werthfawr sy’n gartref i bawb ohonom.
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Mynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Esgob Cynorthwyol Bangor, Mary Stallard