Sicrhau ansawdd yn athrofa hyfforddi’r Eglwys
Gall myfyrwyr yn athrofa hyfforddi'r Eglwys yng Nghymru fod yn hyderus o’r safonau a’r gefnogaeth y maen nhw’n eu cael yn dilyn arolwg diweddar.
O fewn y pedair blynedd er sefydlu Athrofa Padarn Sant, mae’r athrofa wedi cael adroddiad cadarnhaol gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) ac fe nodwyd gan y tîm arolygu nad oedd unrhyw faes oedd angen gwelliannau. Dywedodd yr adroddiad y gall myfyrwyr fod yn hyderus bod safonau academaidd yr athrofa ac ansawdd profiad academaidd myfyrwyr yn ateb gofynion rheoleiddiol.
Sefydlwyd Padarn Sant yn 2016 i hyfforddi pobl ar gyfer y weinidogaeth leyg ac ordeiniedig ac yn bresennol mae ganddo 364 o fyfyrwyr. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PYDDS) i gyflwyno’r rhaglen BTh Diwinyddiaeth ar gyfer Disgyblaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth. Yn ogystal mae’n gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd I gyflwyno’r rhaglenni MTh Diwinyddiaeth a’r MTh Astudiaethau Caplaniaeth.
Yn dilyn yr arolwg QAA, mae gan Athrofa Padarn Sant yr hawl i arddangos logo’r QAA ar ei gwefan a’i phapur pennawd.
Mae dysgwyr yn dod gyntaf
Dywedodd Pennaeth Athrofa Padarn Sant, Parch. Athro Jeremy Duff ei fod wrth ei fodd â’r adroddiad.
Dywedodd “Mae dysgwyr yn dod gyntaf ac mae’r adroddiad hwn yn profi hynny. Y prif ddau beth sy’n bwysig i’r QAA ydy- safonau academaidd a phrofiad myfyrwyr. Ydy dysgwyr yn cael ansawdd o safon a cefnogaeth o safon? Rydym ni wrth ein boddau am ganlyniad mor gadarnhaol i’r arolwg. Mewn llai na paedair mlynedd er sefydlu, rydym ni cyrraedd y nod I Addysg Uwch yn y DU- gyda thim talentog yn sicrhau bod dysgwyr yn cael ansawdd o safon.”
Dywedodd Archesgob Cymru John Davies, “Mae’r gymeradwyaeth gan y QAA i’w groesawu, ac yn golygu fy mod yn medru rhannu gyda’r Eglwys ehangach a’i sicrhau o’r hyder cynyddol sydd yng ngwaith Athrofa Padarn Sant. Ar adeg pan fo datblygiadau parhaus yn y modd mai hyfforddiant diwinyddol wedi ei strwythuro a’u cyflwyno, rwy’n ddiolchgar iawn i Jeremy a’r tîm ym Mhadarn Sant am eu gwaith caled, ac rwy’n falch iawn o’i llongyfarch ar y cyflawniad gwych hwn.”
Darllenwch yr adroddiad
Adroddiad Athrofa Padarn Sant