Degfed Sul Adferiad Cymru
Bydd dydd Sul 31ain o Hydref yn garreg filltir arall yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill yng Nghymru, meddai Wynford Ellis Owen, Ymgynghoryd.d Cwnsela Arbenigol CYNNAL – y gwasanaeth cwnsela i glerigion, gweinidogion yr efengyl, gweithwyr Cristnogol, a’u teuluoedd.
Unwaith eto eleni, nodwyd Sul fel Sul Adferiad i annog eglwysi nid yn unig i ystyried sefyllfa’r rhai sy’n dioddef o ddibyniaeth o ryw fath, i ddysgu mwy am eu sefyllfa, eu hangen a’r help sydd ar gael trwy ymdrechion mudiadau megis Adferiad, y Stafell Fyw, Inroads a chyflenwyr eraill. Mae hefyd yn gyfle i weithredu yn ymarferol i estyn cymorth. Gall y cymorth olygu cyfraniad ariannol tuag at y gwaith i rai, tra y bydd eraill yn cymryd sylw newydd o’r anogaeth sydd yn Hebreaid 13, 3 “Daliwch ati i gofio’r rheiny sy’n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain!” Efallai mai carchar llythrennol sydd dan sylw awdur y llythyr at yr Hebreaid, ond ar Sul Adferiad cofiwn fod caethiwed dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw, gamblo a mwy, yn garchar i gymaint o bobl heddiw
Mae’r gwasanaeth yn seiliedig ar ddameg y Mab Afradlon - dameg sy’n ein hatgoffa o dri cham sydd, o’u cymryd, yn ein rhyddhau i dderbyn cyfle newydd, a thrwy hynny fywyd newydd: Cydnabod, Codi, a Chyfrannu.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru ar fore Sul 31ain o Hydref - a bydd croeso i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn eich eglwysi. Bydd ar gael i’w lawr lwytho ar ein gwefan: www.cynnal.wales yn fuan.
Yn ogystal, rydym wedi comisiynu emyn newydd, ‘Gweddi Adferiad’, yn arbennig ar gyfer y gwasanaeth. Mae’r geiriau gan Siôn Aled, a’r dôn gan Sioned Webb, a bydd yn cael ei ganu ar y radio gan Begw Rowlands a chôr bychan o aelodau eglwys Bethlehem, Gwaelod-y-Garth.
Dyma ddegfed Sul Adferiad Cymru. Ar y Sul hwn, gwahoddwn Gristnogion Cymru i uno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth, yn ddibynnol; gan ofyn i Dduw ein helpu ni i’w helpu nhw.
Diolch rhagblaen am bob cydweithrediad a chefnogaeth.