Awdur enwog i siarad mewn cwrs hinsawdd
Bydd amgylcheddwraig enwog yn siarad ar yr ymateb Cristnogol i newid hinsawdd yn y gyntaf o dair rhaglen hyfforddiant ar arweinyddiaeth hinsawdd ar gyfer eglwysi.
Dr Ruth Valerio, cyfarwyddwr yr elusen Tearfund ac awdur llyfr Grawys 2020 Archesgob Caergaint, Saying Yes to Life, fydd yn arwain sesiwn gyntaf y cwrs ar-lein gyda sgwrs ar Stori Efengyl Fawr Duw.
Caiff y cwrs arweinyddiaeth hinsawdd ei arwain gan Tearfund yn benodol ar gyfer eglwysi yr Eglwys yng Nghymru yn ystod mis Chwefror. Mae’n cynnwys tair sesiwn fer gyda’r nos yn edrych ar ddiwinyddiaeth ac ymarfer. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer pobl sy’n arwain, neu sydd â diddordeb mewn arwain, gweithredu ar yr hinsawdd yn eu heglwysi. Byddant yn cael adnoddau a syniadau ar sut y gallant ymwneud gyda’r argyfwng yn eu heglwysi a’u cymunedau. Caiff nifer o bobl o bob cynulleidfa eglwys eu hannog i gofrestru ar gyfer y cwrs ac efallai ffurfio grŵp cefnogaeth eco ar gyfer yr eglwys yn dilyn yr hyfforddiant.
Cynhelir y cwrs ar Zoom rhwng 7.30-9pm ar y dyddiadau dilynol:
- 2 Chwefror: Dr Ruth Valerio, Cyfarwyddwr Eiriolaeth Fyd-eang a Chyfarwyddwr Dylanwadu, Tearfund
- 9 Chwefror: Dulliau gweithredu ac ymagweddau
- 16 Chwefror: Ymgysylltu a gwaith maes
I gael mwy o wybodaeth neu i gofrestru anfonwch e-bost at Julia Edwards, Hyrwyddwr yr Eglwys yng Nghymru ar Newid Hinsawdd yn: