Adeiladu’n Ôl gyda Chyfiawnder - adroddiad
Mae pandemig Covid-19 wedi gwaethygu anghydraddoldebau dyfn a chudd o amgylch y byd a allai ddymchwelyd i ‘drychineb’ os na wnaiff cynllun adferiad fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hynny, yn ôl adroddiad newydd gan Cymorth Cristnogol.
Wrth gefnogi’r adroddiad meddai Archesgob Cymru, John Davies, ‘Tydi’r adroddiad hwn gan Cymorth Cristnogol ddim yn dal dim yn ôl wrth alw am ymateb byd eang ar y cy di helpu ein brodyr a’n chwiorydd sydd mewn angen mro fawr. Mae cyfnod digynsail yn galw am ymateb digynsail ac rwyn annog y llywodraeth i ddangos trugaredd a haelioni wrth gyflawni ei dyletswydd rhyngwladol.’
Dywed yr adroddiad, Adeiladu’n Ôl gyda Chyfiawnder: Dileu Anghydraddoldenau wedi Covid-19, am effeithiau’r coronafirws, ‘Dim ond dechrau datblygu y mae’r effeithiau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol.’ Mae’n ychwanegu, ‘Mae’r pandemig wedi amlygu a chadarnhau anghydraddoldebau sy wedi bodoli ymhell cyn y firws … Heb weithredu buan a chadarn, mae’r argyfwng yn rhai o’r gwledydd tlotaf yn bygwth datblygu i fod yn drychineb fydd yn creu dioddefaint dynol digymar, gwaethygu anghydraddoldebau ac arafu unrhyw adferiad.’
Mae’r asiantaeth datblygu rhyngwadol wedi beirniadu gwledydd cyfoethog yn y gogledd byd eang am fethu a rhyddhau dyledion gwledydd yn y de byd eang – gwledydd oedd eisoes yn ei chael hi’n anodd dygymod gyda taliadau dyled cyn i’r firws eu heffeithio.
Mae Cymorth Cristnogol yn galw am ddileu taliadau dyled cyffredinol am 12 mis i 76 gwlad incwm isel. Gallai dileu dyled ‘fod yn un o’r ffyrdd cyflymach i ryddhau adnoddau i rai o’r gwledydd sy wedi eu heffeithio waethaf gan y pandemig a’i effeithiau economaidd.’
Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, ‘Mae gwleydd cyfoethog wedi gallu chwistrellu symiau anferthol o arian i gefnogi eu heconomi tra bod gwleydd tlawd dan faich dyledion mawr sydd dal heb eu dileu. Mae hyn yn anheg iawn, yn ogystal â bod yn unllygeidiog. Os na bydd y gwledydd cyfoethocaf yn camu lan ac yn cefnogi ymateb cyffredinol a chynllun adferiad sy’n cynnwys dileu dyledion, fe welwn ni’r argyfwng presennol yn troi i ail adrodd trychineb degawd goll Affrica ac America Ladin yn yr 1980au.’
Mae’r adroddiad yn nodi fel y mae rhai gwledydd eisoes wedi gweld cynnydd ym mhris bwyd, yn ogystal â tharfu ar raglenni gofal iechyd, fel imiwneiddio a gofal mamol. Meddai’r adroddiad, ‘Mewn sawl gwlad, gallai’r aflonyddu sy wedi bod ar ofal iechyd ar wahan i Covid arwain at lawer mwy o farwolaethau na’r firws ei hun.’ Mewn gwledydd gyda glanweithdra gwael, mae rhagofalon diogelwch rhag Covid-19, fel golchi dwylo aml, yn llawer mwy heriol. Yn ogystal, mae 90% o blant ysgol wedi colli rhan o’u haddysg ac mae’n bosibl na fydd nifer o fyfyrwyr byth yn mynd yn ôl – yn enwedig y merched. Meddai’r adroddiad, ‘Mae profiad epidemig Ebola yng ngorllewin Affrica yn dangos fod cau ysgolion wedi arwain at lefel uwch o ferched yn gadael yr ysgol yn barhaol, ac i gynydd mewn llafur plant, esgeulustod, cam-drin rhywiol, beichiogwrydd yn yr arddegau a phiodasau ifanc.’
Adferiad gwyrdd
Yn ôl yr adroddiad, mae rhaid i’r adferiad fod yn un gwyrdd a chynaliadwy. Mae’r firws wedi dangos ‘y gall llywodraethau ymyrryd yn gadarn pan fo maint yr argyfwng yn glir a phan fo’r cyhoedd yn cefnogi gweithredu. Y nod ddylai ein bod yn dadgysylltu twf oddi wrth allyriadau nwyon ty gwydr, ac i hanneru allysriadau byd eang erbyn 2030 a bod yn ddi-garbon erbyn 2050.’
Yn un o’r ddau ragair i’r adroddiad, mae’r economegydd datblygu Jayati Ghosh yn pwysleisio’r angen i ‘sicrhau adferiad byd eang sydd yn eang a chyfiawn ac sy’n trawsffurfio ein heconomi a’n perthynas cymdeithasol mewn ffordd radical, ac yn rhoi pobl a’r blaned yn y canol.’
Ychwnaegodd yr Athro Ghosh, ‘Mae’r adrodd hwn yn cynnwys craidd y problemau, gan awgrymu atebion ymarfeol y mae’n rhaid canfod derbyniad ehangach iddynt. Mae’n gyfraniad pwysig ac amserol i’r drafodaeth ar sut y gellid adfer ein byd o’r argyfwng dwys hwn.’