Ymateb i heriau cymhleth ein byd
Y bobl dlotaf yn y byd yw’r rhai a effeithir fwyaf gan brisiau sy’n codi oherwydd rhyfel, newyn a newid hinsawdd. Trwy roi, gweithredu a gweddio gallwn ddefnyddio Wythnos Cymorth Cristnogol i wneud gwahaniaeth go iawn, meddai Dyfed Roberts o Cymorth Cristnogol yng Nghymru.
Mae heriau ein byd yn aml a dyrys. O ryfel yn Wcráin, newyn yn Affganistan ac effeithiau’r argyfwng hinsawdd trwy’r byd i gyd, byddai’n hawdd troi’n fewnblyg a digalonni. Ond yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol (15-21 Mai) mae cyfle i ymateb yn gadarnhaol i’r heriau hyn. Trwy roi, gweithredu a gweddïo, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.
Mae’r gwrthdaro yn Wcráin wedi mynd a sylw’r byd dros y misoedd diwethaf. Un canlyniad i’r ymladd yno yw bod prisiau grawn wedi codi, gan fod Wcráin yn wlad sy’n cynhyrchu cymaint o rawn ar gyfer y byd.
Wrth gwrs, bydd y gwledydd cyfoethog yn gallu ymdopi gyda’r prisiau uwch, ond i’r gwledydd tlawd mae’n fater gwahanol. Mae gwlad fel Zimbabwe, er enghraifft, eisoes yn ei chael hi’n anodd cynhyrchu eu bwyd eu hunain oherwydd y newid yn yr hinsawdd a bydd prisiau uwch yn ychwanegu at yr argyfwng.
Zimbabwe gaiff sylw Wythnos Cymorth Cristnogol eleni. Mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn gweithio yno er mwyn eu helpu i addasu eu dulliau amaethyddol. Mae Janet Zirugo (yn y llun) yn fam-gu 70 oed ac wedi gweld ei bywyd yn cael ei drawsnewid gan y technegau newydd.
Un peth yn benodol sydd wedi ei helpu yw’r hadau newydd y mae’n eu defnyddio erbyn hyn. Mae’r hadau hyn yn wydn iawn mewn cyfnodau sych a thrwy eu defnyddio gall Janet sicrhau cnydau da ar gyfer ei theulu. Mae wedi gallu troi ei thir sych a llychlyd yn ardd llawn llysiau lliwgar.
Dyma’r hyn y mae Wythnos Cymorth Cristnogol yn gallu ei gyflawni. Mae’r arian yr ydych yn ei godi yn holl bwysig yng ngwaith y mudiad o amgylch y byd.
Bydd pob math o weithgareddau’n digwydd ledled Cymru o amgylch cyfnod yr Wythnos, yn cynnwys nifer o unigolion a grwpiau sy am gyflawni her y 300,000 cam trwy fis Mai. Mae’r her hon wedi cydio yn nychymyg llawer ers iddi gael ei threialu dwy flynedd yn ôl.
Un person sy am gyflawni’r her hon ydi ficer Llandudno, Andrew Sully. Mae wedi gosod nod sylweddol iawn iddo’i hun - sef cerdded o’r Waen i Gaernarfon gan gysylltu pob un o gestyll y gogledd ar y ffordd, 22 ohonynt. Bydd wedi cerdded mwy na 300,000 cam erbyn diwedd mis Mai heb os!
- Os yw ymdrech Andrew yn eich ysbrydoli, beth am drefnu eich taith eich hun yn lleol? Cewch fwy o wybodaeth:
- Ar ein gwefan
- Trwy ffonio ein swyddfa 029 2084 4646
- Trwy e-bostio
Mae problemau’n byd yn gymhleth ac yn rhyng-gysylltiol, ond trwy sefyll mewn undod gyda’n brodyr a’n chwiorydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd nifer.