Uwch-gynhadledd Adfer Afonydd Cymru - adroddiad
Yr argyfwng sy’n wynebu afonydd Cymru oedd canolbwynt uwch-gynhadledd genedlaethol a gynhaliwyd gan yr Eglwys yng Nghymru.
Daeth mwy na 90 o bobl o bob rhan o’r DU, gan gynnwys gwyddonwyr, ffermwyr, amgylcheddwyr a chynrychiolwyr y diwydiant dŵr at ei gilydd i drafod yr heriau sy’n wynebu cyrsiau dŵr yng Nghymru ac i edrych ar ffyrdd o wella ansawdd dŵr.
Cynhaliwyd uwch-gynhadledd Adfer Afonydd Cymru, dan gadeiryddiaeth Archesgob Cymru, ar Dachwedd 7-8, yng Nghaerdydd, ychydig cyn Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP29) ac Wythnos Hinsawdd Cymru.
Dywedodd yr Archesgob Andrew John, "Roeddwn yn falch iawn bod cymaint o sefydliadau wedi mynychu ac ymgysylltu'n llawn â'r sesiynau. Un peth yr oeddem i gyd yn cytuno arno oedd nad yw'r sefyllfa sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Mae'n rhaid i ni newid y ffordd yr ydym yn gofalu am ein hafonydd a’u hecosystemau er lles pob un ohonom. Rwy’n gobeithio mai canlyniad yr uwchgynhadledd hon fydd ysbrydoli newid a helpu i adfer ein hafonydd.”
Roedd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn bresennol ar gyfer rhan o’r uwch-gynhadledd ac fe gymerodd y cyfle i annerch y cyfarfod. Pwysleisiodd pa mor allweddol yw i gymryd agwedd ymarferol tuag at faterion amgylcheddol.
Awgrymodd y dylid canolbwyntio ar lai o brosiectau ond eu gwneud yn dda, yn hytrach na cheisio mynd i'r afael â gormod o faterion ar unwaith gydag adnoddau cyfyngedig. Gwahoddodd yr uwch-gynhadledd i gyflwyno rhestr o gamau gweithredu allweddol i Lywodraeth Cymru.
Trafododd yr uwch-gynhadledd nifer o brif bynciau yn ymwneud â gwella iechyd afonydd ac ansawdd dŵr yng Nghymru. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i leihau llygredd yn ei ffynhonnell;
- Cyflwyno rheoliadau amaethyddol i atal dŵr ffo niweidiol i afonydd;
- Annog cydweithio rhwng cymunedau, ffermwyr ac awdurdodau lleol i reoli basnau afonydd;
- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd i ysgogi gweithredu lleol;
- Cryfhau polisïau a gorfodi i sicrhau bod cyfreithiau'n cael eu dilyn.
Dywedodd un o’r panelwyr, Fergus O’Brien o Dŵr Cymru, y byddai’r cwmni’n buddsoddi £2.5bn dros y pum mlynedd nesaf i wella ansawdd dŵr. Fodd bynnag, tynnodd sylw at y ffaith na fyddai arian yn unig yn datrys y mater.
Galwodd y cyfranogwyr am well cyllid ar gyfer rhaglenni ffermio sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd ac arweinyddiaeth gryfach i sicrhau bod polisïau newydd yn cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus.
Neges gyffredinol yr uwch-gynhadledd oedd bod cydweithio, bod yn arloesol, a chael cynllun clir, wedi’i ariannu’n dda, yn hanfodol ar gyfer adfer a diogelu afonydd Cymru ar gyfer y dyfodol.
Mae ystod o gamau gweithredu ac awgrymiadau yn cael eu paratoi a byddant yn cael eu dosbarthu fel rhan o'r ymateb i'r uwch-gynhadledd.
Oriel luniau
Rhestr lawn o’r sefydliadau ar y paneli
Sesiwn 1: Cyflwyno’r wyddoniaeth
Dr Alison Caffyn (ymchwilydd ar faterion gwledig)
Prifysgol Caerhirfryn/Lancaster
Sesiwn 2: Ansawdd a chyfaint dŵr
Sesiwn 3: Pridd ac amaethyddiaeth
Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig
Cymdeithas Ganolog Prisiwyr Amaethyddol
Sesiwn 4: Datrysiadau seiliedig ar natur
Sesiwn 5: Dŵr a Gwastraff
Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad
Dywedwch eich stori wrthym
Fe wnaethom wahodd mwy na 90 o bobl a sefydliadau i uwch-gynhadledd Adfer Afonydd Cymru ond rydyn ni’n gwybod bod llawer mwy ohonoch chi â diddordeb yn ein dyfrffyrdd. Felly os ydych chi'n poeni am ansawdd dŵr, os oes gennych chi syniadau i'w rhannu neu os hoffech chi gymryd rhan mewn trafodaethau yn y dyfodol, cysylltwch â ni a rhowch wybod i ni.
Ni fyddwn yn rhannu eich cyfeiriad e-bost neu sylwadau ag unrhyw un arall, heb ofyn i chi yn gyntaf.
Adfer Afonydd Cymru
Gweld y rhaglen