Encil yn canolbwyntio ar weinidogaeth Sagrafennol
Bu i encil fu’n ystyried sut i roi egni newydd i’r weinidogaeth sagrafennol wneud i gyfranogwyr fyfyrio ar bwysigrwydd yr hyn sy’n elfennol, meddai un o'r trefnwyr, y Canon Dr Mark Clavier.
Ymgasglodd clerigion a lleygwyr o bob cwr o Gymru yn Nhŷ Encil Llangasty, ger Aberhonddu, i dreulio amser gyda’i gilydd yn gweddïo, yn gwrando, ac yn trafod sut i roi egni newydd i’r weinidogaeth sagrafennol. Gan ddwyn y teitl, Trigo yn Nirgelwch Crist: Gwahoddiad i Genhadaeth Sagrafennol, bu i’r encil gynnull cyfranogwyr mewn myfyrdod dwfn ar yr hyn a olygai i drigo yn y Gair a'r Sagrafennau - sut i neilltuo’r hyn sy’n elfennol. Drwy gydol eu hamser gyda’i gilydd, mynegodd y cyfranogwyr hiraeth am ganfod dyfnderoedd y ffydd Gristnogol ac awydd i ddod o hyd i ffyrdd newydd i agor ymwybyddiaeth eraill i gyfoeth y dychymyg Cristnogol.
Yn fy nghroeso siaradais am yr angen am weinidogaeth sagrafennol i’n dwyn yn ôl at y ffynonellau, i ganolbwyntio ar galon ein ffydd. Dyna pam y gwnaethom drigo yn y Gair a'r Sagrafennau yn thema i'r gynhadledd. Dyna hanfod gweinidogaeth sagrafennol.
Dechreuodd yr encil gyda'r Esgob Rowan Williams yn siarad am yr hyn y mae'n ei olygu i breswylio. Gan gyfeirio ar straeon gwerin Cymreig, anogodd bobl i ddychwelyd i ganol ein ffydd, i sefyll oddi mewn i gylch y meini, sef Crist, lle gallwn wybod pwy ydym yn ei lewyrch ef. Yn ei anerchiad nesaf, siaradodd yn deimladwy am yr Ysgrythur fel sgript sy’n cael ei pherfformio ac sy’n gwahodd pobl i ganfod eu hunain o fewn ei naratif. Bu iddo ddwyn i gof ganrifoedd o hanes yr eglwys pan y canfyddwyd y Beibl, nid ar y dudalen gysegredig yn bennaf, ond yn hytrach trwy ei berfformiad yn y litwrgi, ac mewn celf, cerddoriaeth, a drama.
Drannoeth, siaradodd y Tra Barchedig Ddr Frances Ward am breswylio yn y sagrafennau megis ymgorfforiad, gwreiddio, a swyngyfaredd. Bu iddi ystyried y cysyniad o breswylio drwy adnabod yr angen i feithrin dychymyg Catholig trwy leoli’r corff, wedi’i osod mewn cyd-destun penodol, o fewn byd sydd wedi’i drefnu’n ddwyfol. Gofynnodd i’r cyfranogwyr feddwl sut y gallem fyw’r alwedigaeth honno fel corff Crist, wedi’i hachub gan ei gorff, er mwyn i’r cynefinoedd a’r bobl y’n gelwir iddynt adnabod y bywyd llawen hwnnw drostynt eu hunain. Roedd hi’n annog pobl i wneud hyn mewn ffyrdd sy’n eu gwreiddio nhw a’u cymunedau yn y mannau lle maen nhw’n byw ac mewn ffyrdd sy’n eu cyfeirio tung at adennill galwedigaeth y ddynoliaeth fel stiwardiaid Duw yn y greadigaeth.
Rhwng y sgyrsiau meddylgar a’r trafodaethau bywiog, treuliodd encilwyr amser mewn addoliad, gweddi, ac ymddiddan, gan gael anogaeth yng nghwmni ei gilydd fel cyd-deithwyr ar daith ffydd. “Roedd yr encil yn wirioneddol ddychmygus, calonogol, ac yn llawn gobaith am ddyfodol yr Eglwys yn y dalaith hon,” meddai’r Parchg Nick Gill, wrth fyfyrio ar yr encil.
Cyn y Cymun Bendigaid i gloi, arweiniodd y Parchg Ddr Ainsley Griffiths, y Parchg Ddr Jordan Hillebert, a minnau drafodaeth lawn am y camau nesaf. Cytunwyd y byddai cyfres o encilion rhanbarthol yn cael eu trefnu i ddod â dynion a merched, yn glerigion a lleygwyr, at ei gilydd i gael eu hadfywio mewn gweddi, addoliad, a myfyrdod diwinyddol. Ymrwymodd y cyfranogwyr hefyd i ymgynnull yn wythnosol ar-lein i drafod y llithiadur ar y Sul.
Dywedodd y Parchg Ddr Catherine Haynes, "Cefais ei fod yn ffynhonnell wych o gyfoethogi - llannerch yr oedd mawr angen, i ysgogi'r meddwl ac i adnewyddu fy ngweinidogaeth."
Cafodd y gynhadledd ei gwarantu gan Convivium, menter a ddechreuwyd yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu i ysbrydoli pobl i feddwl am sut i fyw'n gytûn gyda Duw, y greadigaeth, a'i gilydd.
- Os hoffech gael gwybod am ddigwyddiadau yn y dyfodol neu i ymuno yn y grŵp lithiadur wythnosol, cysylltwch â mi ar markclavier@eglwysyngnghymru.org.uk