Mynd ar encil yn y cyfnod clo
I’r rhai sydd angen adfywiad ysbrydol ar ôl blwyddyn o gyfnodau clo, efallai na fydd y syniad o fynd ar encil yn apelio ar unwaith. Mae’r syniad o encilio o gymdeithas i le tawel lle gallwch ymgolli mewn myfyrdodau yn colli ei apêl pan fyddwch chi wedi bod yn gaeth yn y tŷ, gydag ychydig iawn i dynnu eich sylw a chwmni yn brin, am gymaint o amser yn barod.
Ond eto, mae’r cyfnod clo hwnnw sydd wedi ‘gorfodi encilio’ ar gymaint ohonom wedi amlygu ein hangen i gael ein hadfywio a’n hadnewyddu, dywed y Parchedig Sally Harper, arweinydd gweddi yng Nghanolfan Ysbrydolrwydd Iesuwyr Beuno Sant, ger Llanelwy. Efallai bod y cyfnodau clo wedi rhoi mwy o amser a lle nag a gawsom erioed ond mae hefyd wedi dwyn pryder, iselder, ansicrwydd ac ofn.