Rhoi’r saint yn ôl yn Noswyl yr Holl Saint
Roedd yr hyn sydd wedi mynd yn ŵyl y meirwon arswydus, unwaith yn dathlu bywydau’r saint. Mae’n bryd i Gristnogion ail hawlio ‘Noswyl yr Holl Saint’, dywed y Parch Lee Taylor, sy’n nodi’r noson gyda dewis gwahanol i’r codi ofn arferol yn ei eglwys yn Llangollen ar 31 Hydref.
Mae’r gair “Halloween” yn Saesneg yn deillio o’r hen ymadrodd, “All Hallows’ Eve” neu Noswyl yr Holl Saint. Mae’n nodi’r noson cyn Diwrnod yr Holl Saint a ddethlir ar 1 Tachwedd.
Deillia Gŵyl yr Holl Saint o’r hen ŵyl Geltaidd Samhain, oedd yn nodi diwedd y cyfnodau hir o olau dydd a dechrau rhan dywyll y flwyddyn.
Mae cysylltiad rhwng Gŵyl yr Holl Saint a Gŵyl yr Holl Eneidiau ac mae’n debyg bod eu gwreiddiau mewn fersiwn Gristnogol o Samhain.
Felly, pam dathlu’r ŵyl y noson cynt? Mae’r diwrnod litwrgïaidd yn cael ei fframio yn ôl y patrwm Hebreig sy’n cychwyn a gorffen wrth i’r haul fynd i lawr bob dydd. Felly mae dathliadau'r Holl Saint yn dechrau ar ôl y machlud y diwrnod cynt: Noswyl yr Holl Saint.
Roedd hi’n draddodiad yn y Canol Oesoedd i blant nodi dechrau’r ŵyl hon trwy fynd o gwmpas i gasglu rhoddion ar Noswyl yr Holl Saint mewn ffordd debyg i ganu carolau, pan fyddent yn mynd o ddrws i ddrws a gofyn am roddion neu “soul cakes” yn Saesneg a chynnig gweddïo dros y meirwon. Mewn rhai mannau, roedd hefyd yn arfer ar Noswyl yr Holl Saint i anrhydeddu’r saint meirw ac yna ymweld â’r tir cysegredig lle mae aelodau’r teulu wedi cael eu claddu. Roedd (ac mae’n dal felly mewn llawer o wledydd Ewropeaidd heddiw) yn gyffredin i oleuo canhwyllau offrwm coch i addurno beddau’r rhai fu farw. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi ei wneud yma yn Eglwys Collen Sant yn ystod blynyddoedd blaenorol.
Er bod dathlu Gŵyl yr Holl Seintiau a chofio’r Holl Eneidiau, mewn rhai ffyrdd, yn gysylltiedig mae ganddynt hefyd eu pwyslais unigryw eu hunain. Mae Dydd yr Holl Saint yn ddathliad pan fydd yr Eglwys gyfan yn diolch am yr holl ddynion a merched dewr ar hyd yr oesau a wrandodd ac a ymatebodd i alwad Duw. Mae’n ein hatgoffa, bob tro y byddwn yn ymgasglu o gwmpas bwrdd yr Arglwydd ein bod yn estyn llaw mewn cyfeillgarwch ar draws amser a thragwyddoldeb, gan ymuno â chymun y saint sy’n addoli Duw. Mae’n amser i gael ein calonogi gan esiampl y saint.
Fel arfer mae Diwrnod yr Holl Eneidiau, sy’n dilyn ar 2 Tachwedd, yn achlysur mwy difrifol. Mae’n gyfle i gofio’r rhai sydd wedi marw’n fwy diweddar, y rhai yr oeddem yn eu hadnabod yn bersonol, yn arbennig y rhai sydd wedi ein hannog a’n meithrin yn y ffydd. Lluniodd Isidore o Seville litwrgi i’r meirw ac yn y flwyddyn 998 nododd 2 Tachwedd fel y dyddiad ar gyfer cadw Dydd yr Holl Eneidiau.
I nodi Noswyl yr Holl Saint yn Eglwys Collen Sant, bydd taith ysbrydol a hanesyddol o gwmpas yr eglwys yng ngolau cannwyll a fydd yn archwilio hanes Noswyl yr Holl Saint. Mae golau’n symbol pwerus yn y traddodiad Cristnogol. Mae’n symbol o gysur, cynhesrwydd a gwarchodaeth. Dywedodd yr Iesu, “Myfi yw goleuni’r byd, ni fydd y rhai sy’n fy nilyn i fyth yn cerdded mewn tywyllwch, byddaf yn rhoi digon o oleuni iddynt fyw ynddo.” Gall yr Iesu helpu a’n harwain pan fydd arnom ofn. Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar y goleuni hwnnw ac yn ddewis cadarnhaol gwahanol i weithgareddau mwy arswydus Calan Gaeaf.
- Bydd y noson yn dechrau am 6.30pm ar 31 Hydref. Cost tocynnau yw £10 (£8 gostyngol). Am ragor o wybodaeth, ffoniwch: 01978 861768.
Y Tad Lee yw’r offeiriad-yng-ngofal Ardal Cenhadaeth Glyn y Groes yn Esgobaeth Llanelwy