Cynnal Synod Sanctaidd
Cafodd etholiad Cherry Vann fel Esgob Mynwy ei gadarnhau mewn cyfarfod o’r Synod Sanctaidd ddydd Sul (5 Ionawr).
Cafodd etholiad Cherry Vann fel Esgob Mynwy ei gadarnhau mewn cyfarfod o’r Synod Sanctaidd ddydd Sul (5 Ionawr).
Etholwyd Ms Vann gan Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru ym mis Medi. Roedd yn flaenorol yn Archddiacon Rochdale yn Esgobaeth Manceinion.
Mae’n ofyniad yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru y caiff pob etholiad esgobaethol ei gadarnhau gan gyfarfod o’r esgobion esgobaethol presennol mewn Hwyrol Weddi Gorawl yng Nghadeirlan Aberhonddu, sedd Archesgob Cymru, John Davies.
Caiff yr Esgob Cherry ei chysegru ar 25 Ionawr yng Nghadeirlan Aberhonddu.