Yr Eglwys yn ymrwymo i fod yn ddiogel i bawb
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ymrwymo i fod yn “eglwys ddiogel” lle gall pawb ffynnu, yn ei bolisi diwygiedig a lansiwyd yr wythnos hon.
Ynddo mae’n esbonio bod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb a disgwylir i bawb sy’n gweithio i’r eglwys gadw ato.
Mae’r polisi newydd yn adolygu ac yn disodli polisi blaenorol yr Eglwys o bedair blynedd yn ôl. Ynddo gwahanir nod a diben diogelu oddi wrth y gweithdrefnau a’r cyfarwyddyd am arferion er mwyn gwneud y polisi yn fwy clir a hygyrch.
Mae’n amlinellu egwyddorion diogelu a rôl Timau Diogelu Taleithiol. Mae hefyd yn pwysleisio bod raid i bob rhan o’r eglwys fabwysiadu’r polisi a’i weithredu i sicrhau ei effeithiolrwydd.
Dywed y polisi, “Mae’r rhai sy’n gweithio i’r eglwys ac yn ei chefnogi, yn lleyg ac wedi eu hordeinio, boed yn wirfoddolwyr neu yn gyflogedig, yn hanfodol i sicrhau bod pawb yn cael eu trin gydag urddas a pharch a’u gwerthfawrogi bob amser, boed yn blant, oedolion mewn perygl, oedolion sy’n fregus yng nghyd-destun yr Eglwys, y rhai sydd wedi goroesi camdriniaeth neu droseddwyr.
“Mae gan yr Eglwys yng Nghymru gyfrifoldeb dros sicrhau bod pob aelod o’r eglwys, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio yn yr eglwys, yn cael gofal a’u diogelu trwy ddarparu hyfforddiant effeithiol a chefnogaeth briodol. I’r diben hwn mae’r Eglwys yng Nghymru yn ymroddedig i fod yn Eglwys Ddiogel.”
Wrth gefnogi’r polisi newydd, dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, ei bod yn “ddogfen fyw” fyddai’n cael ei diweddaru’n gyson. Dywedodd, “Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo yn llawn i sicrhau’r safonau ymddygiad uchaf yn ei waith gyda phlant ac oedolion bregus. Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu pob unigolyn o’r fath sy’n dod atom, a rhaid i’n heglwysi fod yn fannau diogel lle na fyddant fyth yn dioddef cam-fanteisio na niwed o unrhyw fath. Rhaid i ni fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau bod ein gwaith gyda nhw yn rhoi’r lefel o ofal ac amddiffyniad y mae ganddynt yr hawl i’w ddisgwyl.
“Mae’r polisi diogelu yn sail i’r gwaith hwn, dogfen fyw fydd yn cael ei hadnewyddu a’i diweddaru yn gyson wrth i’r angen godi ac mae’n nodi’r fframwaith a’r cyfarwyddyd i bawb sy’n arfer gweinidogaeth gyda’r ifanc a’r bregus.
“Rwy’n gobeithio y bydd yn galluogi gwaith pawb sy’n ymwneud â diogelu ar draws yr Eglwys yng Nghymru i arfer cyfrifoldeb cariadus, gofalgar a chefnogol yn y rhan hanfodol hon o fywyd yr eglwys.”
Bydd y cyfarwyddyd ymarfer diwygiedig i gyd-fynd â’r polisi ar gael yn yr wythnosau nesaf.
Diogelu - mae'n gyfrifoldeb ar bawb
Polisi Diogelu TaleithiolCwrs Ymwybyddiaeth Diogelu
Mae’r Eglwys yng Nghymru hefyd wedi lansio cwrs ymwybyddiaeth diogelu ar-lein y mae’n annog pawb i’w gwblhau.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan Sefydliad Padarn Sant, adain hyfforddi’r Eglwys, a bydd yn arwain pobl trwy gyfres o ffilmiau animeiddiedig i esbonio rôl diogelu ym mywyd yr eglwys mor glir ag sy’n bosibl. Mae’n trafod pynciau fel sut i adnabod arwyddion o gam-drin emosiynol, corfforol neu rywiol a beth i’w wneud os byddwch yn amau bod camdriniaeth yn digwydd. Ar ôl ymuno, bydd y cwrs yn cymryd tua 90 munud i’w gwblhau. Mae’n cynnwys dau gwis y mae’n rhaid i bobl lwyddo ynddynt cyn cael tystysgrif.
Dysgwch ragor am y cwrs ac ymunwch yma: