Mae eglwysi yn nodi Dydd Sul Diogelu
Ffyrdd y gall eglwysi helpu a gwarchod pobl fregus fydd ffocws Dydd Sul Diogelu eleni.
O wybod sut i sylwi ar a rhoi adroddiad am arwyddion o gamdriniaeth i weddïo dros bob dioddefwr, bydd y diwrnod yn gyfle i gynulleidfaoedd feddwl am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn eglwys ddiogel i bawb.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn nodi Dydd Sul Diogelu ar 17 Tachwedd mewn partneriaeth gyda sefydliad diogelu Cristnogol Thirtyone:eight. Thema eleni yw “Gadewch i Ni Siarad Amdano”, sy’n annog eglwysi i fod yn fwy agored am eu harferion diogelu.
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn annog eglwysi i nodi’r dyddiad.
Dywedodd, “Mae gwarchod pobl fregus wrth galon y neges Gristnogol a dyna pam fod yr Eglwys yng Nghymru yn ymroddedig i fod yn ‘eglwys ddiogel’. Mae Dydd Sul Diogelu yn gyfle i ganolbwyntio ar yr hyn mae’n ei olygu i fod yn eglwys ddiogel, i’n hatgoffa fod eglwys ddiogel yn gyfrifoldeb i bawb ac i ddiolch a gweddïo dros bawb sy’n gweithio ym maes diogelu. Gobeithiaf y bydd ein holl eglwysi yn ymuno ac yn nodi’r diwrnod pwysig hwn.”
Diogelu yn edau aur sy’n rhedeg drwy fywyd yr eglwys
Dywedodd Wendy Lemon, Rheolwr Diogelu yr Eglwys, y bydd y diwrnod yn gyfle i sicrhau fod pobl yn gwybod sut i roi adroddiad am unrhyw bryderon sydd ganddynt. Dywedodd, “Mae Dydd Sul Diogelu yn gyfle i eglwysi roi sylw i waith pwysig diogelu yn ein heglwysi. Mae’n ein hatgoffa fod diogelu yn edau aur sy’n rhedeg drwy fywyd yr eglwys. Mae’n dod â’n diben Cristnogol i warchod pobl fregus ynghyd gyda’n hangen i weddïo dros y rhai yng nghymunedau’r eglwys sy’n cymryd cyfrifoldebau diogelu.
“Anogwn eglwysi i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael gan yr Eglwys yng Nghymru a thirtyone:eight i neilltuo peth amser yn eu gwasanaeth ar 17 Tachwedd i dynnu sylw at a gweddïo dros ddiogelu o fewn ein heglwysi. Erbyn diwedd Dydd Sul Diogelu gobeithiwn y bydd pobl yn gwybod pwy yw Swyddogion Diogelu eu Hardal Gweinidogaeth neu Genhadaeth a sut i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt. Gobeithiwn hefyd y byddant wedi cael eu hatgoffa fod diogelu yn rhan ganolog o’r ffyrdd Gristnogol.”
Mae’n amser cael sgyrsiau agored ac onest am beth a gawsom yn anghywir a beth a wnawn yn iawn
Mae ymgyrch Dydd Sul Diogelu bellach yn ei 6ed blwyddyn a’r llynedd daeth mwy na 4,000 eglwys o wahanol gefndiroedd a thraddodiadau ar draws y Deyrnas Unedig ynghyd i ystyried eu taith ddiogelu. Bydd eglwysi yn myfyrio, a thrafod, lle y gallent fod wedi cael pethau’n anghywir yn y gorffennol, ystyried sut maent yn cefnogi’r rhai a gafodd eu brifo neu eu niweidio, a rhoi sylw a dathlu’r holl waith caled sy’n mynd rhagddo tu ôl i’r llenni i amddiffyn pobl fregus a chreu diwylliant a chymunedau mwy diogel ar gyfer pawb yn awr ac yn y dyfodol.
Dywedodd Peter Wright, Pennaeth Cyfathrebu ac arweinydd ymgyrch Thirtyone:eight: “Mae amddiffyn pobl fregus rhag niwed a chodi llais dros eu hawliau yn rhan hanfodol o’n mandad ysgrythurol fel Cristnogion. Gwaetha’r modd, nid yw’r eglwys bob amser wedi gwneud hyn yn dda. Ond mae gennym gyfle i newid hynny. Dyna pam mai ein thema a ffocws eleni yw – ‘Gadewch i ni siarad amdano’. Mae’n amser cael sgyrsiau agored ac onest am beth a gawsom yn anghywir a beth a wnawn yn iawn. Mae’n gyfle i wrando a thrafod sut y gallwn fod yn effeithiol wrth atal camdriniaeth a chreu Eglwys lle gall pawb deimlo a bod yn ddiogel.”
I gymryd rhan yn yr ymgyrch gall Eglwysi gofrestru am becyn adnoddau digidol rhad am ddim yn safeguardingsunday.org sy’n hwyluso cynnal gwasanaeth, neu ran o wasanaeth. Mae’n cynnwys gweddïau, nodiadau ar gyfer pregethau, syniadau am weithgareddau, adnoddau i blant a llawer mwy.
Dywedodd Peter, “Gall rhoi dim ond un dydd Sul i siarad am ddiogelu gael argraff enfawr. Beth bynnag yw traddodiad neu arddull eich eglwys, os mai dim ond ychydig funudau sydd gennych neu os gallwch glustnodi gwasanaeth cyfan, mae’r cyfan yn cyfri. Fe wnaeth dros 4,000 o eglwys uno y llynedd a chymryd rhan. Ymunwch â ni a bod yn rhan o’r mudiad anhygoel yma dros ddaioni."
- Bydd yr adnoddau ar gyfer Dydd Sul Diogelu ar gael nawr, yn y Gymraeg a Saesneg ar wefan thirtyone:eight