Cyfraith Diogelwch Rwanda ddim yn ‘foesol nac yn ymarferol’ – Archesgob
Nid yw deddfwriaeth Diogelwch Rwanda y Llywodraeth a basiwyd yr wythnos hon naill ai’n ‘foesol nac yn ymarferol’ meddai Archesgob Cymru.
Mewn datganiad, mae’r Archesgob Andrew John yn rhybuddio ei fod yn gosod ‘cynsail peryglus’ i wledydd eraill ac mae’n galw am bolisïau sy’n diogelu’r rhai mwyaf anghenus.
Datganiad yr Archesgob
Dymunaf gofrestru fy mhryderon dwys parhaus am Fil Diogelwch Rwanda sydd bellach wedi dod yn ddeddf. Sylweddolaf fod angen strategaeth i fynd i’r afael â phroblemau mewnfudo cynyddol ond credaf nad yw’r ddeddfwriaeth hon naill ai’n foesol nac yn ymarferol.
Yn greiddiol iddo mae ymwrthodiad o’n cyfrifoldeb byd-eang i ofalu am ein cyd fodau dynol sydd mewn angen dybryd. Y cyfan a wnawn yw dileu’r broblem a throi ein cefn ar y rhai y mae’n ddyletswydd arnom i’w hamddiffyn. Mae’n gosod cynsail peryglus i wledydd eraill.
Rydym eisoes, ac yn drasig, wedi gweld yr wythnos hon nad yw’r polisi yn atal pobl rhag croesi’r Sianel mewn cychod ac ofnwn y bydd y colli bywyd, yn ogystal ag arfer arswydus smyglo pobl, yn parhau, er gwaethaf y ddeddf hon.
Fel arweinydd Cristnogol rwy’n annog y Llywodraeth i gyfeirio ei hymdrechion a’i hadnoddau at bolisïau mewnfudo sy’n mynd i’r afael â smyglo pobl fregus ac sy’n dangos trugaredd, cyfiawnder a haelioni i’r rhai sy’n galw arnom am help.