‘Cariad anhunanol yn trawsnewid cymunedau’ – Neges Pasg yr Archesgob
Yn ei neges Pasg mae Archesgob Cymru yn rhybuddio na all gwleidyddion ar eu pen eu hunain ddatrys yr holl broblemau sy’n wynebu ein gwlad.
Gan ganmol “ymdrechion rhyfeddol arwyr di-glod”, dywedodd yr Archesgob Andrew John mai cariad anhunanol sy’n trawsnewid cymunedau a’n bywydau.
Y cariad anhunanol hwnnw, meddai, yw’r hyn mae’r Pasg yn ei gynnig.
Bydd yr Archesgob yn pregethu yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor ar gyfer Gwylnos y Pasg ddydd Sadwrn 30 Mawrth, am 6pm.
Ar Sul y Pasg, 31 Mawrth, bydd yn pregethu yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli am 11am.
Mae croeso i bawb i’r ddau wasanaeth.
Neges y Pasg
Mae gan Gymru nawr Brif Weinidog newydd. Mae Mr Vaughan Gething yn gyfrifol am arwain y llywodraeth yng Nghymru a siarad dros y Blaid Lafur ar faterion o ddiddordeb cenedlaethol.Wrth gwrs, bydd yr heriau a wynebwn yng Nghymru angen mwy nag ymdrechion un person pa bynnag mor ymroddedig a chadarn yw eu bwriadau. Gydag etholiad cyffredinol yn debygol eleni ni ddylai’r ffocws ar San Steffan bylu’r angen am drawsnewid o fewn ein holl gymunedau yng Nghymru.
Cefais fy nharo gan ymdrechion rhyfeddol cynifer eleni sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Er enghraifft, rwyf wedi dod i adnabod y rhai sy’n gwirfoddoli ar gyfer Parkrun fel David, sydd yn ei wyth degau, sydd yno beth bynnag y tywydd fel y gall rhedwyr gymryd rhan yn ddiogel. Mae’r arwyr di-glod hyn y mae eu gwaith tawel a chyson yn y cefndir yn aml yn mynd heb ei gydnabod yn effeithio ar fywydau’r hen a’r ifanc. Anaml y caiff y potensial ar gyfer bendithio eraill ei gydnabod er y gallant fod y pethau pwysicaf ym mwyd person arall.
Caf hefyd fy nharo hyd yn oed yn fwy gan waith Cristnogion yn ein heglwysi a chapeli sy’n rhannu ffydd flaengar sy’n gyfoethog ac egnïol. Caiff y math hwn o ffydd ei ysbrydoli gan brofiad personol o’r Crist Atgyfodedig a chaiff ei ysgogi gan y ffordd y cyffyrddodd Iesu â bywydau pobl eraill. Rwy’n meddwl am Pam sy’n ymweld â’i chartref gofal lleol ac yn treulio amser yn siarad ac yn gwrando ar breswylwyr am y pethau sy’n bwysig iddynt neu Frank sy’n gwirfoddoli i agor ei eglwys leol fel y gall pobl ddod i mewn a gweddïo yno. Pan ystyriwn yr heriau gwirioneddol sy’n ein hwynebu ar draws y byd p’un ai’n newid hinsawdd, diogelwch bwyd, rhyfeloedd neu ansefydlogrwydd llywodraethau, mae’n rhwydd anghofio pa mor ddwfn y gall y cyffyrddiad personol ac unigol fod.
Ychydig fyddai yn disgwyl i’r Prif Weinidog newydd ddatrys ein holl broblemau. Yn wir ymddengys i fi fod y syniad fod newid yn digwydd yn bennaf oherwydd penderfyniadau gwleidyddol yn anghywir. Yr hyn sy’n ein codi uwchben meddylfryd byw yn llwyr i ni’n hunain yw profiad o gariad anhunanol. A dyma’r hyn mae’r Pasg yn ei gynnig. Yn stori’r Pasg gwelwn gariad mor fawr fel ei bod yn llwyddo i’n swyno a’n hennill i wasanaeth.
A gaf ddymuno i chi Basg Hapus a bendith Duw.
+Andrew Cambrensis