Uwch Esgob yn annog yr eglwys i ymateb i heriau newydd
Mae pandemig Covid wedi newid “tirwedd bywyd” ac wedi codi cwestiynau am yr hyn sy’n hanfodol mewn ffordd na chafodd prin ei weld o’r blaen, meddai Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru heddiw (6 Medi).
Yn ei anerchiad fel Llywydd i’r Corff Llywodraethol yr Eglwys ar ddechrau ei gyfarfod deuddydd, cafodd yr Eglwys ei hannog gan yr Esgob Andy John i edrych am Dduw yn y byd newidiol ac ymateb i heriau newydd.
Cafodd Covid effaith ddybryd ar yr economi a’n lles cenedlaethol, meddai. Diolchodd i bawb oedd wedi gofalu am eraill mewn cartrefi nyrsio a chartrefi gofal ac ysbytai, gan ganmol eglwysi am fod yn “chwimwth” wrth ddarganfod ffyrdd newydd ar-lein o fod yn eglwys a chanfod ffyrdd blaengar i wasanaethu’r gymuned.
Mae digwyddiadau allanol bob amser wedi llunio diben Cristnogol meddai, gan bwysleisio,
”Nid maint yr her ond graddfa’r ymateb ffyddlon fu bob amser yr hyn oedd yn arwyddocaol.”
Rhybuddiodd yr Esgob Andy, sy’n hefyd yn Esgob Bangor, fod sefydliadau sy’n methu addasu i newidiadau mewn perygl o “ffosileiddio”. Dywedodd, “Mae methu ymateb i heriau newydd yn golygu diffyg rhyddid i ddarganfod yr hyn mae Duw yn ein wneud o’n hamgylch. Gallwn ddychmygu pa fath o eglwys y byddem wedi bod pe byddai ein cyndadau wedi parhau’n amwys am gaethwasiaeth a heb ddatblygu dealltwriaeth lawnach o werth dynoliaeth a wnaed yn nelw Duw. Neu’r hyn a fyddem onibai i ni drin mater galw gwragedd i’r offeiriadaeth ac esgobaeth?”
Wrth annerch aelodau sy’n bryderus am Fil a drafodir yng nghyfarfod y Corff Llywodraethol i awdurdodi gwasanaeth bendith ar gyfer partneriaethau o’r un rhyw, cydnabu’r Esgob Andy y byddai newid yn boenus i’r rhai sy’n ei ystyried fel ymadawiad o air Crist.
Dywedodd, “Ond mae pob datblygiad yn ymadawiad i ryw raddau; mae rhywbeth yn newid pryd bynnag mae datganiad newydd o ymarfer. A hyd yn oed pan ymddengys bod newid o’r fath yn gydnaws gyda safbwynt pendant, mae yn newid serch hynny. Pan newidiodd yr eglwys ei safbwynt ar wahardd cig gyda gwaed arno neu weld fod caethwasiaeth ym mhob ac unrhyw ddull yn fileinig, roedd newid.
“Rhaid i ‘awdurdod y ddoe tragwyddol’ beidio bod yn faen melin o amgylch ein gyddfau ond rhoi sail ar gyfer croesawu’n ddewr yr hyn mae Duw yn ei wneud yn y byd o’n hamgylch. Mae cenhadaeth bob amser wrth galon ffydd. Ac mae bod yn fyw i Dduw, i’r hyn a allai ddigwydd nesaf, yn rhan o barhau’n chwilfrydig ac agored i gyfleoedd newydd.”
Mae’r Esgobion, meddai, yn y broses o ystyried materion dwfn am ddyfodol yr Eglwys – o ran strwythur a hefyd cenhadaeth – i sicrhau fod ei ffocws ar genhadaeth a bod yn addas i’r diben.
Canmolodd drawsnewidiad yr Eglwys yng Nghymru o’i system blwyfol draddodiadol i Ardaloedd Gweinidogaeth a Chenhadaeth. Mae’r llwyfannau newydd yn cadw’r hyn oedd yn dda am blwyfi tra hefyd yn galluogi croesawu mynegiant newydd o’r eglwys”, meddai.
“Wrth i fynegiant amrywiol o’r eglwys yn ddod yn fwy arferol, bydd cwestiynau newydd yn dal i fod am sut i dyfu galwedigaeth – i’r offeiriadaeth, a hefyd arweinwyr lleyg fydd yn cynnig y gefnogaeth a’r cyfeiriad sydd eu hangen. Ond ni ddylem fod dan unrhyw amheuaeth fod ecoleg (neu economi) hybrid, cymysg bywyd yr eglwys yma i aros a hynny ar draws Cymru gyfan.”
Gan annog aelodau i edrych am Dduw drwy’r newidiadau sy’n digwydd o’u hamgylch, daeth yr Esgob Andy i ben drwy ddweud “Mae gweld ein tasg yn y ffordd hon yn bod yn agored i’r hyn y mae Duw wedi ei baratoi ar gyfer y rhai sy’n ei garu.
Mae’n gweld y dasg drwy lygaid Crist ac yn ein rhyddhau i wneud yr hyn sy’n wirioneddol bwysig.”
Mae’r Corff Llywodraethol yn cyfarfod ar 6 Medi yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru. Bydd ail ddiwrnod y cyfarfod ar-lein yn unig, ar Zoom, ddydd Mercher 8 Medi.
Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru a sianel Youtube