Uwch esgob yn croesawu ffoaduriaid o Afghanistan
Mae Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru yn cynnig croeso cynnes i’r 50 teulu sydd newydd gyrraedd Cymru ar ôl ffoi o Afghanistan.
Mae’r Esgob Andy John hefyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailfeddwl am ei Bil Cenedligrwydd a Ffiniau er mwyn sicrhau fod eraill mewn angen yn canfod lloches diogel yn y DU.
Mae Cymru yn adsefydlu 50 o deuluoedd o Afghanistan, 230 o bobl, i ddechrau. Mae’r rhan fwyaf yn deuluoedd rhai a gefnogodd Luoedd Arfog y DU dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Dywedodd yr Esgob Andy, sydd hefyd yn Esgob Bangor: “Rydym yn falch i fedru rhoi ar waith ein hegwyddorion fel Cenedl Noddfa a dweud ‘Croeso i Gymru’ wrth yr Afghaniaid nad ydynt mwyach yn ddiogel yn eu mamwlad. Edrychwn ymlaen at y ffyrdd y byddant yn cyfoethogi bywydau cenedl amrywiol ac allblyg Cymru.
“Rydym yn parhau i weddïo dros bawb sy’n dal i fod yn Afghanistan ac yn ofni erledigaeth, ac yn gweddïo am barhad ymdrechion cymorth dyngarol yn y wlad honno. Mae rhesymau lluosog a chymhleth pam fod pobl yn ffoi o’u cartrefi, a gweddïwn hefyd y bydd yr holl gefnogaeth a ddangoswyd i ffoaduriaid o Afghanistan yn ysbrydoli Llywodraeth y DU i ail-feddwl am ei pholisïau a gweithredoedd at y rhai sy’n cyrraedd drwy ddulliau eraill, fel ein bod yn parhau’n lle gwirioneddol ddiogel a chroesawgar ar gyfer rhai mewn angen.”