Gwasanaeth yn dathlu 900 mlynedd o bererindod yn Nhyddewi
Cynhelir gwasanaeth cenedlaethol i ddathlu pererindod i Dyddewi y mis hwn.
Bydd Archesgob Cymru, Andrew John, yn arwain y gwasanaeth yn yr Eglwys Gadeiriol i ddathlu bywyd Dewi Sant, nawddsant Cymru, ar nawcanmlwyddiant ei gydnabyddiaeth ryngwladol ac o Dyddewi fel man pererindod.
Yn 1123 cafodd Tyddewi fraint gan y Pab Callixtus II yn Rhufain a ddatganodd fod dwy bererindod i Dyddewi yn gyfartal ag un daith i Rufain. Er y bu pererinion yn teithio i Dyddewi o gyfnod Dewi Sant ei hun yn y 6ed ganrif, arweiniodd hyn at gynnydd yn y nifer oedd yn mynd i Dyddewi i weddïo yn y Gadeirlan. Heddiw mae’r Gadeirlan yn dal yn ganolfan adnabyddus ar gyfer pererindod ac mae cannoedd o filoedd o bobl yn ymweld bob blwyddyn.
Mae’r gwasanaeth dwyieithog yn rhan o wasanaeth blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau i nodi’r nawcanmlwyddiant. Fe’i cynhelir ar 25 Gorffennaf, sef Gwledd Sant Iago, nawddsant pererinion. Bydd holl esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr eglwysi, ffydd a sefydliadau eraill ar draws Cymru.
Caiff gwesteion eu croesawu i’r Gadeirlan fel pererinion ar daith bywyd. Wrth iddynt eistedd, bydd y côr yn rhoi y perfformiad cyntaf o ddarn o gerddoriaeth a gomisiynwyd, sef Cyfod Bererin, gan y cyfansoddwr Meirion Wynn Jones gyda geiriau gan Dr Sarah Rowland Jones, Deon Tyddewi. Yn nes ymlaen yn y gwasanaeth bydd y côr yn canu The Pilgrimage gan y cyfansoddwr Neil Cox, sydd hefyd yn dod o Gymru, a gafodd hefyd ei gomisiynu gan y Gadeirlan ac a gafodd ei berfformiad cyntaf yn gynharach eleni.
Daw’r gwasanaeth, fydd yn dechrau am 3pm, i ben drwy fendithio Creirfa Dewi.
Dywedodd Dr Sarah Rowland Jones, Deon Tyddewi, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pobl o bell ac agos ar gyfer y gwasanaeth naw canmlwyddiant arbennig hwn sy’n nodi uchafbwynt ein blwyddyn o ddathlu Dewi Sant. Byddwn yn diolch am ddyn sy’n parhau i ysbrydoli pererinion ar ôl 900 mlynedd o gydnabyddiaeth ryngwladol. Mae ei athrawiaeth - Byddwch lawen, cadwch y ffydd, a gwnewch y pethau bychain – yn parhau yn gwmpawd moesol grymus ar gyfer pobl o bob ffydd a dim ffydd, yn arbennig wrth i ni edrych am ein ffordd drwy gyfnodau ansicr bywyd.
“Bu cynnydd mawr eto ym mhoblogrwydd pererindod – teithio gyda bwriad ysbrydol i ofod cysegredig – ac mae rheswm da am hynny. Mae teithio allanol yn ysgogi teithio mewnol yr ysbryd, a gall helpu iechyd meddyliol a chorfforol hefyd. Ymddengys bod Covid wedi cynyddu ein dymuniad ymhellach am fwy o gysylltiad gyda’n hunain, ein creadigaeth, a’r Creawdwr.
“Mae pobl a ddaw i Dyddewi yn canfod yn aml iawn fod bob yn y gofod cysegredig hwn yn cyffwrdd yn fawr iawn arnynt. Yn y canol oesoedd, roedd y Greirfa yn cynnig ffocws neilltuol i bererinion, a heddiw dywedwn y dylid gweld y Greirfa, fel Dewi Sant ei hun, yn llai fel cyrchfan, ond yn hytrach fel arwyddbost yn ein hannog yn nes at Dduw Dewi a ninnau.”
Y gerddoriaeth
Cyfod Bererin
Geiriau ‘Cyfod Bererin’ gan Dr Sarah Rowland Jones, Deon Tyddewi, a’r cyfansoddwr Meirion Wynn Jones yw:
Duw Dewi a’n ninnau / Cadwa di yn Ei gariad,/ Duw Dewi a’n Duw ninnau/ Adfywia’th enaid di.
The Pilgrimage, gan Neil Cox
Mae geiriad ‘The Pilgrimage’ yn cyfuno dau ddarn, y gerdd Pilgrimage gan Walter Raleigh a stori’r Ffordd i Emaus fel y’i hadroddir yn Efengyl Luc. Mae dau o’r disgyblion yn cerdded i Emaus pan mae dieithryn yn ymuno â nhw. Wrth iddi nosi maent yn ei wahodd i ymuno â nhw am swper, a phan mae’n torri’r bara maent yn ei adnabod fel y Crist Atgyfodedig. Mae’r cysylltiad gyda phererindod yn deillio o gerflun mawr o’r olygfa hon yng nglwystai mynachlog Santo Domingo de Silos yng ngogledd Sbaen, nepell o’r llwybr pererindod i Santiago de Compostela. Mae’r ddau ddisgybl yn cerdded wrth ochr Crist, sydd â chragen fylchog wedi ei cherfio ar ei ysgrepan, arwydd pererin. Cafodd ei gerfio yng nghanol y 12fed Ganrif, ychydig dros 100 mlynedd ar ôl i’r Pab Callixtus farnu fod dwy bererindod i Dyddewi yn gyfartal ag un i Rufain, ac i ni gall fod yn fetaffor ar gyfer ein taith ein hun ar hyd pererindod bywyd – rydym ninnau hefyd yn aml yn cerdded wrth ochr dieithriaid, y gallai un ohonynt yn wir fod yn ymgorfforiad o’r Crist byw.
Give me my scallop shell of quiet, my staff of faith to walk upon,
My scrip of joy, immortal diet,
My bottle of salvation,
My gown of glory, hope’s true gauge:
And thus I’ll take my pilgrimage.
And as they drew near to where they were going, He made as though he would go further, but they pleaded with him, bide with us, for evening shadows darken, and the day will soon be over. So he went in to stay with them, and as they sat down to eat, he took the bread and blessed it, and he broke it, and gave the bread to them, and their eyes were opened, and they knew Him.
Penwythnos Pererindod
Mae digwyddiadau eraill i nodi’r nawcanmlwyddiant yn cynnwys penwythnos pererindod, cyn y gwasanaeth. Bydd ailberfformiad o bererinion yn dod o’r môr i’r Gadeirlan i ddiolch am eu goroesiad drwy frwydr. Bydd llynges fach yn croesawu Grŵp Ailberfformio Dynion Rhydd Gwent wrth iddynt hwylio i Harbwr Porthclais ar 22 Gorffennaf 22.
Y trannoeth, ar 23 Gorffennaf, bydd tîm o dywyswyr yn arwain taith gerdded arbennig yn olrhain ôl troed pererinion a saint drwy’r oesoedd, gan ddweud straeon yn gysylltiedig gyda’r lleoedd pererindod hyn. Daw’r dydd i ben gyda gwasanaeth yn y Gadeirlan lle bydd rhai a fu ar bererindod o amgylch cadeirlannau Cymru mewn ceir clasurol yn ymuno â’r cerddwyr.