Dangos tosturi tuag at ffoaduriaid - neges yr Archesgob
Rhaid inni ymateb i ffoaduriaid yn dosturiol, meddai Archesgob Cymru.
Mewn datganiad i arsylwi Diwrnod Ffoaduriaid y Byd, mae’r Archesgob Andrew John, yn galw ar genhedloedd ac unigolion i ddangos lletygarwch i’r rhai sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi.
Mae ei ddatganiad llawn yn dilyn.
Diwrnod Ffoaduriaid y Byd
Eleni, daw Diwrnod Ffoaduriaid y Byd ychydig ddyddiau ar ôl i ni wylio’n arswydus a digalon y trychineb cwch ffoaduriaid oddi ar arfordir Gwlad Roeg gyda’r posibilrwydd o golli cannoedd o fywydau.
Nhw yw’r dioddefwyr diweddaraf mewn argyfwng sy’n gwaethygu flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i bobl ffoi o’u cartrefi o ganlyniad i ryfel, erledigaeth neu newid hinsawdd yn y gobaith o ddod o hyd i ddyfodol gwell yn Ewrop.
Mae hwn yn argyfwng byd-eang sy'n effeithio ar bob un ohonom ac sy'n galw am weithredu byd-eang. Nid oes atebion hawdd ond credwn yn gyntaf oll fod yn rhaid seilio pob ymateb ar dosturi a thrugaredd. Mae ein ffydd yn ein galw i ddangos lletygarwch i ddieithriaid ac i helpu a gwerthfawrogi'r rhai sy'n agored i niwed, yn ddigartref ac yn ddioddefwyr anghyfiawnder.
Gofynnwn i’n genhedloedd ddyblu ymdrechion i sicrhau heddwch a chyfiawnder yn rhannau cythryblus y byd ac i bob un ohonom ymuno mewn gweddi a gweithredu ymarferol dros bob ffoadur fel y gallant gael “gobaith oddi cartref”.
Archesgob Cymru, Andrew John
Diwrnod Ffoaduriaid y Byd
Darganfod mwy