Neges Dydd Gŵyl Dewi
Yn ei neges Dydd Gŵyl Dewi flynyddol i’r Senedd, mae Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi, yn galw am i Gymru fod yn fan lle na chaiff neb eu gadael ar ôl.
Nid neges wedi ei hanelu at y pwerus neu’r cyfoethog oedd geiriau olaf Dewi Sant; yn hytrach, pobl gyffredin ei gymuned oedd ganddo mewn golwg : “Byddwch lawen yn wastadol, cedwch y Ffydd gan fod yn ffyddlon, a gwnewch y pethau bychain.” Er i ni weddïo’n daer y daw dydd llawenhau, ni ddaeth y dydd hwnnw eto, ysywaeth. Ond fe allwn, yn sicr, dalu diolch heddiw am ymroddiad pawb yma yng Nghymru a fu wrthi’n ddyfal yn ystod y pandemig – a hynny mewn amrywiol ffyrdd – yn peryglu eu iechyd er mwyn ein diogelwch a’n dyfodol ninnau. Ar eich rhan, y Dydd Gŵyl Dewi hwn, dyma fi’n dweud wrthynt bob un: Diolch.
A boed i ni, bawb, ar adeg anodd iawn, ymateb i Ddewi Sant a gwneud y pethau bychain. Boed i ni gynnal ffydd, caredigrwydd, gwirionedd, gonestrwydd a chyfiawnder. Treuliodd Dewi ei oes yn meithrin ei gymuned. Wrth i ni oresgyn Covid yn raddol, gadewch i ni gydweithio, gan ddymuno i bawb arall yr union fendithion a chwenychwn ar ein cyfer ein hunain. Gwnawn Gymru’n wlad lle mae pawb ar y blaen.
+Joanna Penberthy