Datganiad ar ddedfryd Anthony Pierce
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru:
"Mae'r ddedfryd sydd wedi'i rhoi yn adlewyrchu natur ysgytwol y troseddau hyn a'r tor-ymddiriedaeth enbyd y maent yn ei gynrychioli. Mae Anthony Pierce wedi cam-drin ei safle, wedi dwyn gwarth ar ei eglwys a, gwaethaf oll, mae wedi achosi trawma ofnadwy a pharhaol i’w dioddefwr. Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'r dioddefwr yn yr achos hwn, sydd wedi dangos dewrder aruthrol wrth adrodd profiadau poenus iawn. Rydym yn ymddiheuro iddo o waelod calon am yr hyn y bu'n rhaid iddo ddioddef.
"Pan gafodd y troseddau hyn eu datgelu i'r Eglwys yng Nghymru yn 2023, fe wnaethom adrodd y mater i'r Heddlu ar unwaith, a buom yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid statudol wrth i'r achos gael ei ymchwilio a'i erlyn. Yn y llys heddiw, canmolodd y dioddefwr waith y Swyddog Diogelu Taleithiol a neilltuwyd i'w achos.
"Bydd achos Antony Pierce nawr yn cael ei anfon at Dribiwnlys Disgyblu'r Eglwys yng Nghymru, drwy broses carlam ar gyfer materion disgyblu ôl-euogfarn. Yn ei lythyr bugeiliol at yr esgobaeth yn dilyn yr achos llys, mae Esgob presennol Abertawe ac Aberhonddu, y Gwir Barchedig John Lomas, wedi ei gwneud yn glir y bydd yn gofyn i'r Tribiwnlys ystyried diarddel Mr Pierce o Urddau Sanctaidd, y gosb fwyaf difrifol sydd ar gael.
"Pan ymddangosodd Anthony Pierce yn y llys ar 7 Chwefror a chyfaddef y troseddau hyn, fe wnaethom gyhoeddi datganiad yn rhoi manylion am yr hyn a ddarganfuwyd mewn ymchwiliad mewnol a ysgogwyd gan adroddiad 2023. Canfu'r ymchwiliad hwnnw fod adroddiad blaenorol o gam-drin yn erbyn dioddefwr gwahanol, wedi ei dderbyn yn 1993 gan nifer fach o uwch ffigurau yn yr eglwys ond nad oedd yr adroddiad hwn wedi cael ei basio i'r heddlu tan 2010, ac erbyn hynny roedd y dioddefwr wedi marw ac roedd Anthony Pierce wedi ei benodi i swydd yr Esgob ac wedi ymddeol.
"O ganlyniad i'r wybodaeth hon, mae Pwyllgor Diogelu'r Eglwys yng Nghymru wedi comisiynu adolygiad allanol annibynnol o'r modd y deliodd yr Eglwys yng Nghymru â honiad 1993. Mae’r ymchwiliad hwnnw eisoes wedi dechrau ac fe fydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl ei gwblhau. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried sut mae honiadau diogelu yn cael eu trin yn systemau presennol yr Eglwys ar gyfer penodi Archddiaconiaid ac Esgobion ac a oes angen unrhyw newidiadau i'r prosesau hyn. Cyhoeddwyd cylch gorchwyl llawn ym mis Chwefror.
"Mae'r Eglwys yng Nghymru yn benderfynol o ddangos ei fod yn lle diogel, ac y bydd pryderon neu ddatgeliadau unrhyw un sy'n dod ymlaen yn cael eu cymryd o ddifrif, yn cael eu trin â thosturi, ac y bydd eu handroddiadau yn cael eu gweithredu yn unol â'r safonau cyfredol uchaf. Os yw ein pobl a'n prosesau wedi methu dioddefwyr a
goroeswyr camdriniaeth yn y gorffennol, rydym yn bwriadu cymryd cyfrifoldeb am y ffaith honno a chymhwyso'r gwersi a ddysgwyd yn llawn.
"Rydyn ni'n teimlo'r cywilydd dwysaf am y troseddau ofnadwy sydd wedi arwain at yr achos llys heddiw, ond rydyn ni'n gobeithio y bydd y ffordd gyflym a phendant y cafodd yr achos ei drin pan gafodd ei adrodd yn 2023, a'r ffaith ein bod ni wedi mynd ati'n rhagweithiol ac wedi datgelu'r materion sy'n ymwneud ag adroddiad 1993 yn rhoi hyder ein bod ni'n benderfynol o wneud popeth posib i sicrhau bod yr eglwys yn ddiogel, bod cam-drin yn cael ei ddarganfod ac yn cael ei ddelio ag ef, a bod dioddefwyr yn cael eu parchu a'u cefnogi.
"Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon diogelu i gysylltu ag aelod o'n tîm trwy wefan yr Eglwys yng Nghymru:
- Gwefan: https://www.churchinwales.org.uk/cy/clergy-and-members/safeguarding/reporting-safeguarding-concern/
- Ffôn: 02920 348200
“Fel arall, mae Safe Spaces yn wasanaeth cymorth annibynnol am ddim, sy'n darparu gofod cyfrinachol, personol a diogel i unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin trwy eu perthynas ag Eglwys Loegr, yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru. Gallwch gysylltu â'r tîm Mannau Diogel drwy:
- Gwefan: www.safespacesenglandandwales.org.uk
- Ffôn: 0300 303 1056 (ffôn ateb ar gael y tu allan i'r oriau agor)
- E-bost: safespaces@firstlight.org.uk
Dylai unrhyw un sydd â phryderon neu wybodaeth am yr achos hwn gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.
Gallwch ddod o hyd i'r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr adolygiad i'r modd y deliodd yr Eglwys yng Nghymru â honiad o gam-drin yn erbyn Anthony Pierce isod:
Cylch Gorchwyl - Adolygiad Achos Annibynnol Anthony Pierce (PDF)
Gellir dod o hyd i'n datganiad blaenorol am yr achos ar Chwefror 7fed yma:
https://www.churchinwales.org.uk/cy/news-and-events/anthony-pierce-court-case/
Gellir dod o hyd i ddatganiad atodol ar Chwefror 26 yma:
https://www.churchinwales.org.uk/cy/news-and-events/supplementary-statement-from-the-church-in-wales-on-the-case-of-anthony-pierce/