Mae Galwad Lambeth Drafft yn “tanseilio a gwyrdroi” pobl LHDT+, meddai Bishops
Mae Galwad drafft Lambeth ar urddas dynol yn “tanseilio a gwyrdroi” pobol LHDT+, meddai esgobion yr Eglwys yng Nghymru.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd cyn Cynhadledd Lambeth, sy’n dechrau ddydd Mawrth, mae’r esgobion yn addo gweithio i ddiwygio’r darn “i adlewyrchu’n fwy digonol ein dealltwriaeth o’u lle cyfartal yn yr Eglwys”.
Mae'r datganiad llawn yn dilyn.
Datganiad Galwad Lambeth
Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn edrych ymlaen at gyfarfod â’u cydweithwyr o bob rhan o’r Cymundeb yng Nghynhadledd Lambeth yn fuan, ac i ymgynghori â’i gilydd er mwyn hybu’r gwaith o gyhoeddi’r Efengyl a chenhadaeth yr Eglwys.
Rydym yn ymrwymo ein hunain i weithio’n gadarnhaol gyda’n holl gydweithwyr i’r perwyl hwn, ond, fel eraill, rydym wedi sylwi ar ddarn byr o destun sydd wedi’i gynnwys yng Ngalwad Drafft Lambeth ar Urddas Dynol, sy’n tanseilio ac yn gwyrdroi urddas rhan annatod o’n cymuned, yn hytrach na’i atgyfnerthu. Gan gydnabod y bydd rhai taleithiau eisiau cadarnhau’r ddealltwriaeth hanesyddol o briodas, dymunwn sicrhau ein chwiorydd a’n brodyr LGBT+ yng Nghrist y byddwn yn gweithio i ddiwygio’r darn hwn i adlewyrchu’n well ein dealltwriaeth ni o’u lle cyfartal yn yr Eglwys.
+Andrew Cambrensis
+Gregory Llanelwy
+Joanna Tyddewi
+June Landav
+Cherry Mynwy
+John Aber
+Mary Stallard