Datganiad yn dilyn achos llys y Parchg Samuel Erlandson
Mae’r Parchg Samuel Erlandson wedi ymddangos yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ar ddau gyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blentyn. Plediodd yn euog a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth hyd at ei ddedfrydu ar Ragfyr 30.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi’i brawychu a’i thristhau bod un o’i chlerigion wedi cyflawni troseddau mor ddifrifol. Mae ein gweddïau gyda'r dioddefwyr yn yr achos hwn, a chyda phob dioddefwr cam-drin.
Mae tîm diogelu’r Eglwys yng Nghymru wedi gweithio’n agos gyda’r heddlu a’r awdurdodau statudol yn y dyddiau diwethaf. Yn syth ar ôl iddo gael ei arestio, dilëwyd caniatâd Mr Erlandson i weinyddu fel clerig. Unwaith y bydd yr achos troseddol wedi dod i ben, bydd Tribiwnlys Disgyblu’r Eglwys yng Nghymru yn ystyried camau priodol pellach.
Nid oes lle i unrhyw fath o gamdriniaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Rydym yn rhoi’r flaenoriaeth uchaf i ofalu am ac i amddiffyn plant a phobl yn ein cymunedau sy’n agored i niwed. I'r perwyl hwn rydym yn adolygu ein gweithdrefnau diogelu yn rheolaidd ac yn darparu hyfforddiant helaeth i staff a gwirfoddolwyr.
Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon diogelu i gysylltu ag aelod o’n tîm drwy wefan yr Eglwys yng Nghymru:
- Gwe: https://www.churchinwales.org.uk/cy/safeguarding/reporting-safeguarding-concern/
- Ffôn: 02920 348200.
Fel arall, mae Safe Spaces yn wasanaeth cymorth annibynnol rhad ac am ddim, sy’n darparu gofod cyfrinachol, personol a diogel i unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin trwy eu perthynas â naill ai Eglwys Loegr, yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr neu’r Eglwys yng Nghymru. Gallwch gysylltu â thîm Safe Spaces drwy:
- Gwefan: www.safespacesenglandandwales.org.uk
- Ffôn: 0300 303 1056 (ffôn ateb ar gael y tu allan i oriau agor)
- E-bost: safespaces@fear-less.org.uk
Dylai unrhyw un sydd â phryderon neu wybodaeth am yr achos hwn gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar eu sgwrs fyw gan ddyfynnu cyfeirnod Q179109.