Eglwys Hanesyddol yn Rhuthun yn cael ei thrawsnewid
Mae eglwys yn Rhuthun yn adleoli dros dro wrth i waith ddechrau ar brosiect trawsnewid gwerth £1.6m.
Mae Eglwys Sant Pedr yng nghanol y dref yn dyddio'n ôl 700 mlynedd ac mae'n cael ei hail-drefnu i greu cegin, toiledau, man cyfarfod, balconi, mynediad gwastad a gwres tanllawr newydd. Bydd y tu mewn yn cynnig lle mwy hyblyg ar gyfer defnydd cymunedol, yn ogystal ag addoliad, gydag ardal y gangell yn cael ei chodi a'r allor uchel yn cael ei gostwng. Bydd y rhan fwyaf o'r seddi sefydlog yn cael eu disodli gan seddi mwy cyfforddus a symudol. Y drws nesaf, mae'r clwysterau yn cael eu hadnewyddu er mwyn cynnig llety pererinion gyda thair ystafell ensuite, gan gynnwys un gyda chyfleusterau hygyrch.
Cafodd Cyngor Sir Ddinbych gadarnhad eu bod wedi sicrhau £10.95m gan Lywodraeth y DU ar gyfer hen etholaeth Gorllewin Clwyd er mwyn cefnogi datblygu10 o brosiectau gyda'r nod o hybu llesiant a diogelu treftadaeth unigryw Rhuthun a’i chymunedau gwledig. Er mwyn cyflawni'r prosiect hwn, dyrannwyd £1.2m gan Lywodraeth y DU yn ogystal â £400,000 arall o gronfeydd wrth-gefn yr eglwys.
Tra bod y gwaith yn cael ei wneud, bydd aelodau o gynulleidfaoedd San Pedr yn cael eu hadleoli i Eglwys gyfagos St Mwrog yn Llanfwrog ar gyfer y gwasanaeth 9am ac i Ysgol Borthyn yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer y gwasanaeth 10.30am. O 2 Chwefror, bydd amser gwasanaeth Ysgol Borthyn yn newid i 4pm.
Dywedodd Warden Eglwys Sant Pedr Rhuthun, y Parchedig Luke Bristowe: "Rydym am i bobl yn y dref wybod, er bod y drysau efallai wedi cau yn San Pedr er mwyn i'r gwaith adeiladu ddigwydd, nid yw'r eglwys ar gau. Gobeithiwn y bydd pobl yn ymuno â ni yn y lleoliadau dros dro ac yr ydym yn symud amser ein gwasanaeth teuluol i 4pm, gyda phryd o fwyd i’w ddilyn, yn y gobaith y bydd yr amser hwn yn addas a gyfer mwy o bobl.
"Hyd yn oed cyn dechrau’r prosiect i drawsnewid Sant Pedr, rydym wedi bod yn troi'r adeilad yn ofod sy'n canolbwyntio mwy ar y gymuned, gyda'n Caffi Ieuenctid prynhawn Llun a Dydd Gwener Galw Heibio. Yn gynharach y mis hwn, pan gaewyd ysgolion oherwydd yr eira, roedd Sant Pedr ar agor, ac fe wnaethom logi castell bownsio ar gyfer tu mewn yr eglwys, felly roedd gan deuluoedd rywle diogel i ddod. Wnaethon ni groesawu dros 100 o bobl y diwrnod hwnnw.
"Nid ar gyfer y Sul yn unig y mae’r Eglwys. Mae'r Eglwys yn rhan annatod a phwysig o'r gymuned a bydd y gwaith adnewyddu yma yn Sant Pedr yn ein helpu i ddiwallu anghenion y dref yn well."
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Dwf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
"Mae eglwys Sant Pedr yn adeilad o arwyddocâd hanesyddol i Rhuthun ac mae sicrhau bod yr arian ar waith i warchod safleoedd treftadaeth fel y rhain yn allweddol i'w defnydd yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i ardal Cenhadaeth Dyffryn Clwyd am weithio gyda Chyngor Sir Ddinbych a'i gefnogi i sicrhau'r cyllid sylweddol hwn sy'n golygu y gall yr eglwys barhau i chwarae ei rhan yn y gymuned".
Tra bod Sant Pedr ar gau, bydd y Caffi Ieuenctid yn agor yn y Neuadd Drilio yn Rhuthun ac mae’r sesiynau Galw Heibio ar Ddydd Gwener yn cael eu hadleoli i'r Neuadd Ambiwlans ar Stryd y Priordy.
Mae Grosvenor Construction yn ymgymryd â'r gwaith yn Eglwys Sant Pedr. Disgwylir I’r gwaith gymryd mwy na naw mis. Y gobaith yw y bydd yr adeilad yn cael ei gwblhau mewn pryd i groesawu pobl i'r gofod newydd ar gyfer Nadolig 2025.
Mae Ardal Genhadaeth Dyffryn Clwyd yn gasgliad o 13 eglwys o amgylch Rhuthun, sy'n gweithio mewn partneriaeth i wasanaethu eu cymunedau lleol. Mae'n rhan o Esgobaeth Llanelwy, un o chwech esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, un o daleithiau annibynnol y Gymuned Anglicanaidd fyd-eang.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eglwysi Dyffryn Clwyd, yn ogystal â mynd ar deithiau VR o amgylch llawer ohonynt ar eu gwefan: