Archesgob yn annog pobl i gefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol
Mae Archesgob Cymru yn annog pobl i gefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol y mis hwn i sicrhau fod help yn cyrraedd y rhai sy’n byw mewn gwledydd tlotach sy’n ei chael yn anodd goroesi.
Bydd yr Wythnos Cymorth Cristnogol (10-16 Mai) yn mynd yn ddigidol eleni i godi arian y mae’n arfer ei gael drwy gasgliadau o ddrws i ddrws ac mewn gwasanaethau mewn eglwysi. Mae’n apelio i bobl gyfrannu’n electronig, drwy ‘e-amlenni’ ac i godi ymwybyddiaeth drwy wasanaethau a gaiff eu ffrydio’n fyw a digwyddiadau ar-lein eraill.
Mae’r Archesgob, John Davies yn cydnabod, gyda ein heriau ein hunain yn ein hwynebu gartref oherwydd COVID-19, ei bod yn rhwydd anghofio am y rhai sydd mewn mwy fyth o angen. Ond mae’n rhybuddio y bydd miliynau yn dioddef yn wael heb gael ein cymorth.
Dywedodd, “Ar adeg sy’n parhau, gyda phob cyfiawnhad, i gael ei alw’n ddigynsail, mae’n rhwydd anghofio am anghenion taer a hirdymor miliynau dirifedi o bobl yn y byd sy’n dibynnu ar haelioni a chariad pobl eraill i gynnal lefel sylfaenol iawn o fywyd. I lawer mae’n gwestiwn o fywyd, goroesi – dim mwy, dim llai. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i waith Cymorth Cristnogol barhau i gael ei gofio a’i gefnogi, hyd yn oed ar y cyfnod mwyaf anodd hwn, oherwydd hebddo byddai ein brodyr a’n chwiorydd anghenus yn mynd yn newynog, yn sychedig, ac yn methu cael cyfiawnder. Maent yn colli mas ac yn colli mas yn wael.
“Bu llawer o gefnogwyr Cymorth Cristnogol yn cynllunio amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfarfodydd oedd i’w cynnal yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, 10 Mai i 16 Mai, ac wrth gwrs bu’n rhaid canslo y rhain. Ond, er siom anochel, mae hyn wedi arwain at bob math o greadigrwydd a dyfodiad syniadau ac adnoddau ffres fydd yn galluogi llawer o wahanol gyfleoedd i ymgysylltu gydag eraill a chodi arian y mae mawr angen amdano fydd yn sicrhau na chaiff na anghofir am y rhai sy’n gorfod brwydro i oroesi, mewn lleoedd pell i ffwrdd.
“Wrth i chi ateb eich heriau eich hun yn ystod y cyfnodau hyn gartref, ac wrth i chi ddiolch am y nifer fawr o bobl o’n cwmpas sy’n cadw olwynion bywyd yn troi, er mewn ffyrdd anarferol a dieithr, rwy’n eich annog i beidio anghofio’r rhai mewn mannau eraill sydd â chymaint llai i ddibynnu arno. Mae digonedd o wybodaeth ar gael ar wefan Cymorth Cristnogol, yn cynnwys gwybodaeth am sut i gyfrannu.
“Diolch i chi am eich haelioni.”
Caiff Wythnos Cymorth Cristnogol ei lansio ddydd Sul 10 Mai gyda gwasanaeth a ffrydir yn fyw am 1pm gyda Dr Rowan Williams, Cadeirydd Cymorth Cristnogol.
I gael manylion sut i gefnogi’r Wythnos Cymorth Cristnogol, yn cynnwys sut i gynnal gwasanaeth rhithiol, gweler
https://www.christianaid.org.uk/about-us/christian-aid-week/coronavirus-guidance
I gyfrannu dros y ffôn, galwch 020 7523 2269 os gwelwch yn dda.