'Newyn yn debygol yn Ne Swdan'
Cymorth Cristnogol a’r Eglwys yng Nghymru yn galw ar i Lywodraeth y DG roi blaenoriaeth i adeiladu heddwch
Dangosodd adroddiad wythnos diwethaf gan arbenigwyr rhyngwladol ar ddiogelwch bwyd fod chwe sir yn Ne Swdan ar fin cael eu heffeithio gan newyn. Wrth i’r wlad nodi saith mlynedd ers dechrau’r rhyfel cartref diwethaf yno, mae Cymorth Cristnogol a’r Eglwys yng Nghymru yn galw ar i’r Llywodraeth ddefnyddio holl rym y pwerau sy wedi dod ynghyd yn y Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu nid yn unig i alw am fynediad gwell i weithwyr dyngarol, ond hefyd i erfyn am weithredu’r cytundeb heddwch ar frys, gan eu bod yn credu fod yr oedi yn hyn yn un o’r prif resymau dros yr argyfwng bwyd.
Yn ôl adroddiad Pwyllgor Adolygu Newyn, mae sir orllewinol Pibor yn nhalaith Jonglei yn wynebu newyn tebygol gyda rhai dangosyddion yn mynd heibio trychineb/newyn cam 5, y dosbarth gwaethaf posibl. Mae rhannau o Akobo (Jonglei), De Aweil (Bahr El Ghazal Gogleddol) a Gogledd Toni, Dwyrain a De (Warrap) hefyd yn nhrychineb cam 5. Mae gan 75 sir arall boblogaethau yng nghamau 3 (creisis) neu 4 (argyfwng). Ni fyddai’r cymorth diogelwch bwyd presennol yn ddigonol i osgoi newyn.
Y ffactor gwaethaf sy’n atal ymdrechion i atal yr aniogewlch bwyd yw’r parhad mewn trais ac anghydfod milwrol yno. Dywed Cymorth Cristnogol y bydd yr aniogewlch bwyd yn gwaethygu heb fuddsoddiad mewn ymdrechion i adeiladu heddwch ar draws y wlad. Dylai hyn gynnwys prosesau cymod ac iachau, ynghyd a chyfiawnder adferol.
Meddai’r Parchedicaf John Davies, Archesgob Cymru, "Trwy ein cysylltiad gydag Eglwys Anglicanaidd De Swdan, a’n Hapêl Canmlwyddiant, fe wyddom fod y wlad ifanc hon wedi dioddef llawer mewn cyfnod byr.
Mae’r ymdrechion i adeiladu heddwch wedi bod yn ganolog i waith yr Eglwys yno ac rydym wedi cael cyfle i gefnogi’r gwaith hwnnw trwy apêl ddiweddar. Ond mae llawer mwy i’w wneud.
"Mae’r gwaith datblygu angenrheidiol sydd ei angen yn un o wledydd tlotaf y byd yn llawer mwy anodd oherwydd yr anghydfod hwn. Rwy’n erfyn ar Lywodraeth y DG i wneud yr oll y gallent i gefnogi’r ymdrech i adeiladu heddwch."
Meddai James Wani, pennaeth Cymorth Cristnogol yn Ne Swdan, wedi ei leoli yn Juba, "Os ydych yn edrych ar y dystiolaeth sydd gennym, a chofio fod y sefyllfa yn debygol o fod yn waeth oherwydd bod bylchau yn ein gwybodaeth, mae newyn fwy na thebyg yn bodoli eisoes. Mae llifogydd, Covid-19 ac anghydfod wedi cyfuno i greu’r argyfwng bwyd hwn - a’r canlyniad ydi cnydau, bywoliaethau, tai wedi eu dinistrio, ffyrdd na ellid teithio arnynt, marchnadoedd wedi dod i ben, a chadwyni cyflenwi wedi eu chwalu, ac mae prisiau bwyd wedi mynd trwy’r to.
Mae partneriaid Cymorth Cristnogol a’n tîm ein hunain yn parhau i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau ar draws De Swdan trwy waith dyngarol, adeiladu heddwch a gwaith datblygu.
"Mae etifeddiaeth yr anghydfod yn ardal y Nîl Uchaf, pryd y defnyddiwyd newyn fel arf rhyfel trwy atal mynediad dyngarol, yn parhau i gael effaith ar y cymunedau yno sy’n ceisio adfer ond mae effeithiau Cvid-19, llifogydd a’r parhad mewn ymladd yn ychwanegu at eu cyflwr bregus."
Mae Cymorth Cristnogol yn galw ar i Lywodraeth y DG gynyddu cefnogaeth i raglenni sy’n cynyddu gwydnwch cymunedau, yn cynnwys talebau arian fel bod pobl yn galu dewis prynu yr hyn maent ei angen, ac i fuddsoddi mewn asiantaethau dyngarol lleol a chendlaethol sydd ar reng fkaen yr ymdrechion i gymodi.