Bydd Croes Cymru yn arwain gorymdaith y Coroni
Bydd Croes Cymru, croes orymdeithiol newydd a gyflwynwyd gan Ei Fawrhydi Brenin Charles III fel rhodd canmlwyddiant i’r Eglwys yng Nghymru, yn arwain gorymdaith y Coroni yn Abaty Westminster ar 6 Mai.
Mewn arwydd ecwmenaidd arwyddocaol, bydd Croes Cymru’n ymgorffori crair o’r Wir Groes, rhodd bersonol y Pab Francis i’w Fawrhydi y Brenin i nodi’r Coroni.
Gyda geiriau o bregeth olaf Dewi Sant wedi eu cerfio arni, bydd Croes Cymru yn cael ei bendithio gan Archesgob Cymru, Andrew John yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno ar 19 Ebrill.
Comisiynwyd rhodd y groes gan Ei Fawrhydi y Brenin, fel Tywysog Cymru, i ddathlu canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru, gyda Chwmni’r Eurychod yng ngofal y prosesau dylunio a chynhyrchu.
Wedi ei dylunio a’i llunio gan y pencampwr o of arian Michael Lloyd, gan ymgynghori â’r Casgliad Brenhinol, fe’i lluniwyd o fwliwn arian wedi ei ailgylchu a roddwyd gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, a phaladr o bren o goeden a syrthiodd yng Nghymru. (Llun ar y chwith gan Richard Valencia)
Rhoddir geiriau o bregeth olaf Dewi Sant ar gefn y Groes yn Gymraeg: “Byddwch lawen. Cadwch y ffydd. Gwnewch y Pethau Bychain.”
I gydymffurfio â’r Ddeddf Dilysnodau, mae dilysnod llawn ar elfennau arian y Groes (rhai Swyddfa Brawf Llundain), gan gynnwys y Nod Brenhinol (pen llewpard) a roddwyd gan y Brenin ei hun ym mis Tachwedd 2022 pan ymwelodd â Chanolfan yr Eurychod yn Llundain.
Bydd y groes yn cael ei derbyn yn swyddogol gan yr Eglwys yng Nghymru mewn gwasanaeth i ddilyn y Coroni a bydd ei defnydd yn y dyfodol yn cael ei rannu rhwng yr Eglwysi Anglicanaidd a Chatholig yng Nghymru.
Wrth groesawu’r rhodd ar ran yr Eglwys yng Nghymru, dywedodd yr Archesgob Andrew, “Mae’n anrhydedd i ni bod Ei Fawrhydi wedi dewis nodi ein canmlwyddiant gyda chroes sydd yn hardd ac yn symbolaidd. Mae ei dyluniad yn cyfeirio at ein ffydd Gristnogol, ein treftadaeth, ein hadnoddau a’n hymrwymiad i gynaliadwyedd. Rydym yn falch iawn hefyd mai ei defnydd cyntaf fydd arwain Eu Mawrhydi i Abaty Westminster yn y Gwasanaeth Coroni.”
Wrth siarad ar ran yr Eglwys Gatholig yng Nghymru, dywedodd Archesgob Caerdydd ac Esgob Mynyw, Mark O’Toole, “Gydag ymdeimlad o lawenydd dwfn rydym yn croesawu’r Groes hon, a roddwyd yn garedig gan y Brenin Charles, ac yn cynnwys crair o’r Wir Groes, a roddwyd yn hael gan y Babaeth. Nid yn unig mae’n arwydd o wreiddiau Cristnogol dwfn ein cenedl ond bydd, rwy’n siŵr, yn ein hannog ni i gyd i fodelu ein bywydau ar y cariad a roddwyd gan ein Hachubwr, Iesu Grist. Rydym yn edrych ymlaen at ei hanrhydeddu, nid yn unig yn y dathliadau amrywiol a gynllunnir, ond hefyd yn y lleoliad urddasol lle bydd yn cael cartref parhaol.”
Dywedodd Dr Frances Parton, Dirprwy Guradur Cwmni’r Eurychod, a reolodd y comisiwn, “Mae Croes Cymru yn dangos perthnasedd sgiliau traddodiadol a chrefftwaith yn y byd modern. Wrth ddefnyddio’r grefft hynafol o ysgythru arian, mae Michael Lloyd wedi creu gwrthrych hardd sy’n cyfuno neges bwerus â diben ymarferol. Rydym yn falch iawn y bydd y Groes yn rhan o’r Coroni ac yn cael ei defnyddio’n gyson yn yr Eglwys yng Nghymru.”
Dywedodd y dylunydd a’r gwneuthurwr, Michael Lloyd, “Rydych yn cychwyn gyda chariad at y deunydd, pa mor hydrin yw, ei botensial ar gyfer mynegi. Mae’r comisiwn wedi fy ngalluogi i bori yn y 1,000 o flynyddoedd o ffydd a hanes. Yn awr, gyda mwy na 267 o drawiadau morthwyl, mae’r groes wedi ymddangos o’r haenau difywyd o arian, ac rwyf yn falch iawn ei bod yn mynd i gael ei defnyddio fel rhan o’r Gwasanaeth Coroni ar 6 Mai.”
“Wedi ei hysbrydoli gan gelf a dylunio canoloesol Cymru, mae Croes Cymru’n cyfuno cyfeiriadau hanesyddol gyda’r crefftwaith cyfoes gorau un,” dywedodd Tim Knox, Cyfarwyddwr y Casgliad Brenhinol. “Mae wedi bod yn brosiect unigryw a diddorol ac rydym wedi bod yn falch iawn o gael ein hymgynghori amdano.”
Bydd y groes yn cael ei bendithio gan yr Archesgob Andrew yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno ar 19 Ebrill. Bydd y gwasanaeth, sy’n gyhoeddus, yn dechrau am 9am, ar ddechrau cyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys.
Diolch i Dave Custance am y lluniau canlynol o Groes Cymru yn y gwasanaeth bendithio