‘Bu bywyd y Frenhines yn un o raslondeb a doethineb’ - anerchiad Archesgob Cymru
Bu bywyd Ei Mawrhydi y Frenhines yn un o raslondeb a doethineb, meddai Archesgob Cymru yn ei anerchiad yng ngwasanaeth cenedlaethol Cymru o weddi a myfyrdod yng Nghadeirlan Llandaf heddiw (DYDD GWENER).
Wrth dalu teyrnged i’w “hetifeddiaeth ryfeddol o wasanaeth ac ymroddiad”, dywedodd yr Archesgob John fod y Frenhines wedi trawsnewid y frenhiniaeth ac wedi rhoi cysondeb cysurlon dros y degawdau.
Cafodd y gwasanaeth, a ddarlledwyd yn fyw, ei fynychu gan Eu Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines Gydweddog a chynulleidfa o wahoddedigion o bob rhan o Gymru.
Dywedodd yr Archesgob i ddefnydd medrus y ddiweddar Frenhines o “rym meddal” ddod yn amlwg yn ei hymweliadau i Aberfan ar ôl y drychineb yno yn 1966, pan gafodd y gymuned ei phresenoldeb yn “gysur mawr”.
Wrth gyfeirio at ymdeimlad cynyddol Cymru o genedligrwydd ac agoriad adeilad y Senedd gan y Frenhines yn 2006, dywedodd yr Archesgob fod “rhannu traddodiad” yn dal i gyfrif a bod angen esiampl y Frenhines o raslondeb a doethineb i “adeiladu cymdeithas lewyrchus a thrugarog.
“Mae ein gwreiddiau fel pobl yn ddwfn, mae ein diwylliant a’n hiaith, ein straeon a’n chwedlau yn ein hymwreiddio mewn treftadaeth unigryw ond hefyd yn ein harwain at ddyfodol gydag addewid a photensial”, meddai.
Er yn “ffigur aruchel” ar lwyfan y byd, gallai’r Frenhines hefyd “synnu a llawenhau”.
“Ni fyddwn byth yn edrych ar jar o farmaled yn yr un ffordd eto nac yn edrych ar Mr Bond heb gofio am 2012 a’r naid honno i’r gwagle,” meddai’r Archesgob Andrew.
Diolchodd yr Archesgob am “ffydd Gristnogol ddofn ac ymroddedig” Ei Mawrhydi oedd wedi llunio ei hymdeimlad o ddyletswydd a gwasanaeth cyhoeddus. Dywedodd, “Roedd ei ffydd yn un bersonol, siaradodd am Iesu Grist a’i berthynas gydag ef yn ogystal â’i ddysgeidiaeth a’r ffordd yr oedd ei fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad wedi agor y posibilrwydd ar gyfer bywyd newydd, adfer perthnasoedd ac ymrwymiad i ‘Deyrnas heb fod o’r byd hwn’.
Wrth annerch Eu Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines Gydweddog, dywedodd yr Archesgob Andrew ei bod yn anrhydedd i’w croesawu i Gadeirlan Llandaf.
“Heddiw cydnabyddwn hefyd dristwch ein Brenin newydd a’i deulu. Yn eu galar, gallwn eu sicrhau o’n cariad a’n gofal atynt ac am ein gweddïau,” meddai.
Cafodd y gwasanaeth, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, ei arwain gan Ddeon Dros Dro Llandaf, Michael Komor, ac arweiniwyd y gweddïau gan June Osborne, Archesgob Llandaf. Hefyd yn cymryd ran oedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a ddarllenodd wers. Darllenodd cynrychiolwyr eglwysi a chymunedau ffydd eraill yng Nghymru weddïau hefyd.
Canodd y côr anthem Gweddi Gymreig, a gyfansoddwyd gan Paul Mealor a geiriau gan Dr Grahame Davies gyda chyfeiliant dwy delyn, yn cael eu canu gan Alis Huws, telynores swyddogol Tywysog Cymru a Catrin Finch, cyn Delynores Frenhinol.
Anerchiad Archesgob Cymru
Daethom ynghyd fore heddiw i ddiolch i Dduw am fywyd y Frenhines Elizabeth II. Yma yng Nghymru, ymunwn gyda’r holl Deyrnas Unedig, y Gymanwlad a phobl ar draws y byd, i alaru am ei cholli. Cofiwn am ei gwasanaeth a’i hymroddiad. Roedd hwn yn wirioneddol yn fywyd o raslondeb a doethineb.
Heddiw cydnabyddwn hefyd dristwch ein Brenin newydd a’i deulu. Yn eu galar, gallwn eu sicrhau o’n cariad a’n gofal atynt ac am ein gweddïau. Mae’n anrhydedd eich croesawu yma ac i fod wedi cael ein gwahodd i gynnal y gwasanaeth hwn.
Wrth i ni fwrw golwg ar ei bywyd, rydym yn ymestyn yn ôl dros yr oesoedd. Roedd ei theyrnasiad o 70 mlynedd a 214 diwrnod yr hwyaf i unrhyw frenhines neu brenin ym Mhrydain a’r ail hwyaf a gofnodwyd mewn unrhyw wlad sofran. Heddiw anrhydeddwn etifeddiaeth ryfeddol o wasanaeth ac ymroddiad heb ei ail yn hanes ein cenedl.
Ar draws y wlad mae llawer wedi cydnabod yr effaith a gafodd y ddiweddar Frenhines ar ein bywyd cyhoeddus yn ogystal ag ar fywydau unigolion; ar sut, o’r dyddiau cynnar, y trawsnewidiodd y frenhiniaeth gan ddod â hygyrchedd i wlad oedd yn dal yng nghysgod anrhaith rhyfel. Mae ei sgiliau diplomatig yn hysbys iawn ond roedd ganddi’r gallu i gysylltu gyda’r dyn/menyw ar ‘Omnibws Clapham’ neu efallai ar y bws ym Merthyr Tudful - gyda’r person ar y stryd, gyda sylw oedd yn gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich deall a’ch gwerthfawrogi. Yn deillio, efallai, o’i phrofiad fel mam, mam-gu a hen fam-gu yn gymaint ag fel Brenhines, caiff y math hwn o allu ei ddysgu dros ddegawdau a drwy ryngweithio gyda bywyd yn ei holl lawenydd a’i dristwch. Pan gaiff hynny ei gyfateb gydag urddas ei swydd, caiff ei godi i lefel uwch byth. Mae graslondeb yn air Cristnogol am hyn.
Heddiw anrhydeddwn etifeddiaeth ryfeddol o wasanaeth ac ymroddiad heb ei ail yn hanes ein cenedl.
Llywiodd y Frenhines ei swydd o fewn brenhiniaeth gyfansoddiadol gyda’i ffiniau a’i chyfrifoldebau. Roedd ei gallu i ddylanwadu, i ddefnyddio ‘grym meddal’, yn ddim llai sylweddol, yn ddim llai awdurdodol, yn dangos y meddwl doeth a gofalus a roddodd i’w swydd. Canfu Prif Weinidogion ei bod yn gyfrinachwraig werthfawr y gallent ymddiried ynddi. Rhoddodd ei sylw i fusnes llywodraeth, gyda’i gwybodaeth o ddigwyddiadau’r byd a hirhoedledd ei theyrnasiad wedi rhoi persbectif a gallu diguro iddi weld y gorwel o bell.
Cafodd yr arweinyddiaeth hon ei chynnal ar draws cyfnod o newid enfawr – diwylliannol, gwleidyddol a thechnolegol – ond i ni cynigiodd sail i fod yn hyderus drwy ganolbwyntio ar bethau oedd yn parhau. Roedd ei chadernid ar gyfnodau o her cenedlaethol yn rhoi sicrwydd. Nid oedd hyn erioed yn fwy gwir na phan ddarlledodd neges i’r genedl yn ystod y pandemig.
Gwelsom hefyd frenhines a fedrai ein synnu a’n llawenhau. Ni fyddwn byth yn edrych ar jar o farmaled yn yr un ffordd eto nac yn edrych ar Mr Bond heb gofio am 2012 a’r naid honno i’r gwagle.
Roedd ei diweddar Fawrhydi hefyd yn ffigur aruchel ar lwyfan y byd, yn ymgorffori sefydlogrwydd a pharhad ond yn fwy na hynny, werthoedd a gaiff eu rhannu ar draws cenhedloedd a diwylliannau. Derbyniodd Benaethiaid Gwladol rif y gwlith yn ogystal â Phrif Weinidog dirifedi. Ei didwylledd bythol yn ogystal â’i lletygarwch oedd yn cynnau cyfeillgarwch a hyder.
Yn ei rôl fel Pennaeth y Gymanwlad llywyddodd dros gymdeithas gynyddol o genhedloedd a chofleidiodd ein hanes, diwylliannau ac ieithoedd amryfal, gan ymhyfrydu yn amrywiaeth y cynulliad unigryw hwn. Ar adegau pan oedd gwledydd yn bygwth ymadael, dangosodd ddefnydd medrus o’r ‘grym meddal’ hwnnw y soniais amdano yn gynharach, y ffordd honno o weithredu pŵer sydd â dyfnder a chyrraedd. Yng Nghymru ni fu’r gallu hwnnw erioed yn amlycach na phan ymwelodd ag Aberfan yn 1966. Canfu cymuned Aberfan ei phresenoldeb yn gysur mawr a byddai Ei Mawrhydi yn dychwelyd bedair yn fwy o weithiau i’r gymuned hon.
Yn un o’n darlleniadau o’r Beibl clywsom am gais Solomon am rodd doethineb ar adeg o drawsnewid sylweddol: Solomon yn dilyn Dafydd fel brenin. Wrth i Gymru ennill ymdeimlad hyd yn oed gryfach o genedligrwydd a’n lle o fewn y byd, dylem ddal i gofio fod rhannu traddodiad yn cyfri. Ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) 2006, nododd y Frenhines bennod newydd ym mywyd ein gwlad pan agorodd adeilad y Senedd. Mae ein gwreiddiau fel pobl yn ddwfn, mae ein diwylliant a’n hiaith, ein straeon a’n chwedlau yn ein hymwreidido mewn treftadaeth unigryw ond hefyd yn ein harwain at ddyfodol gydag addewid a photensial. Rydym angen y graslondeb a’r doethineb a ddangosodd y Frenhines wrth i ni weithio i adeiladu cymdeithas lewyrchus a thrugarog.
Yn olaf, bydd llawer ohonom yn cofio gyda balchder am ei ffydd Gristnogol ddofn ac ymroddedig a luniodd ei hymdeimlad o ddyletswydd a gwasanaeth cyhoeddus o mor gynnar â 1947 pan ymrwymodd ei bywyd i wasanaeth Duw a’r bobl. Wrth ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed, ailgadarnhaodd bwysigrwydd ei ffydd drwy ddweud ei bod, ac yn parhau i fod, yn ddiolchgar iawn i Dduw am ei gariad diysgog, a’i bod yn wir wedi gweld Ei ffyddlondeb. Roedd ei ffydd yn un bersonol, siaradodd am Iesu Grist a’i berthynas gydag ef yn ogystal â’i ddysgeidiaeth a’r ffordd yr oedd ei fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad wedi agor y posibilrwydd ar gyfer bywyd newydd, adfer perthnasoedd ac ymrwymiad i ‘Deyrnas heb fod o’r byd hwn’.
Yn olaf, bydd llawer ohonom yn cofio gyda balchder am ei ffydd Gristnogol ddofn ac ymroddedig
Gorffennaf gyda’i geiriau ei hun wrth iddi fyfyrio ar ystyr y Nadolig am yr hyn a drodd allan i fod y tro olaf. Ar ôl colli ei gŵr annwyl ac eto wedi canfod cysur yng nghariad a’r gefnogaeth a ddangoswyd iddi o bob rhan o’r byd, dywedodd: “It is this simplicity of the Christmas story that makes it so universally appealing, simple happenings that formed the starting point of the life of Jesus – a man whose teachings have been handed down from generation to generation and have been the bedrock of my faith. His birth marked a new beginning. As the carol says: ‘The hopes and fears of all the years are met in thee tonight’.”
Diolchwn i Dduw am y ffydd hon a’r bywyd hwn, a fu’n llawn graslondeb a doethineb.
Amen.