Mae gan y byd y pŵer i greu dyfodol gwell – anerchiad gorseddu yr Archesgob
Mae’r byd yn wynebu amser bregus ond mae’r pŵer i greu dyfodol gwell o fewn ein gafael, meddai Archesgob newydd Cymru heddiw (30 Ebrill).
Yn ei anerchiad yn ei orseddiad heddiw fel 14eg Archesgob Cymru, dywedodd Andrew John ein bod yn wynebu “heriau newydd a dyrys”, yn cynnwys y rhyfel yn Wcráin, y cynnydd enfawr mewn costau byw a newid hinsawdd. Maent yn heriau sydd eu hangen eu hateb gyda gwahanol fathau o bŵer – un o gariad, gwasanaeth, onestrwydd a maddeuant, fel a ddangoswyd gan Grist.
Dywedodd yr Archesgob Andrew: “Pan fyddwn yn gwrthsefyll drygioni ac anghyfiawnder (fel y mae’n rhaid inni) mae arnom hefyd angen rhywbeth sy’n mynd â ni y tu hwnt i’r taflegrau, y tu hwnt i wrthdaro i fan lle gellir cymodi ac adfer heddwch. Credwn mai Duw wedi atgyfodi Iesu oddi wrth y meirw, nid i ddial yn ofnadwy ar y rhai a osododd ddwylo arno ond, yn hynod, i gynnig maddeuant. Nid yw Duw yn mathru nac yn greulon, ond yn cynnig gobaith i bawb”.
Gan fynegi consyrn am iechyd meddwl pobl ifanc yn neilltuol, tanlinellodd yr Archesgob fod dyfodol gwell yn golygu mwy na dim ond ffyniant economaidd. “Rwyf wedi bod yn ymwybodol o’r straen a gyflwynir heddiw gan bwysau cyfryngau cymdeithasol a straen perffeithrwydd gyda’i effeithiau cysylltiedig ar iechyd meddwl pobl ifanc yn arbennig. Nid yw’n hawdd adeiladu gwytnwch pan fo lefelau pwysau yn ddi-baid o uchel. Mae gwerthoedd a gwarantau sy’n meithrin lles ysbrydol ac emosiynol yr un mor hanfodol i unrhyw gymdeithas ag y mae polisïau economaidd cadarn.”
Dywedodd yr Archesgob Andrew fod yr heriau a wynebwyd yn ystod y pandemig wedi ein gwneud yn wydn ac wedi arwain at garedigrwydd at ein gilydd, yn arbennig at y rhai mwyaf bregus. Canmolodd ymateb eglwysi, yn ogystal ag ymroddiad gweithwyr allweddol, megis yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Rwyf hefyd am ddiolch i gydweithwyr - gweinidogion ac offeiriaid fel ei gilydd am weinidogaethu pan oedd yn hynod anodd: cymryd angladdau pan nad oedd llawer yn gallu ymgynnull i alaru, gan gadw cysylltiad pan nad oedd yn bosibl cynulliadau wyneb yn wyneb. Am eich ffyddlondeb a'ch creadigrwydd, diolchwn i chi i gyd am aros yn driw i'ch galwad: mae'r pŵer hwn i gyffwrdd ag eiddilwch dynol yn hynod bwysig. Mae’r pŵer i wasanaethu, i fendithio ac i roi yn ein hatgoffa ni i gyd yn cael ein galw i fod yn Samariaid Trugarog, y gall eu harwriaeth ymddangos yn ddibwys i rai ond sy’n achub bywyd i eraill.
Mae sicrhau dyfodol gwell yn golygu ailddarganfod pŵer ymddiheuriad, meddai’r Archesgob. Gan ddechrau gyda’r Eglwys, cydnabu ei bod wedi camddefnyddio ei phwerau yn y gorffennol, yn cynnwys yng nghyswllt goroeswyr camdriniaeth. Ymddiheurodd yn ddiamod.
Dywedodd yr Archesgob Andrew y gallai enwadau eglwysig wneud mwy i gydweithio a dywedodd y byddai’n eu gwahodd i gael “sgyrsiau gonest” ar ffyrdd newydd o wneud hynny. Fe wnaeth hefyd estyn llaw cyfeillgarwch at bobl o ffydd arall, gan ddweud “gallwn wneud mwy gyda’n gilydd nag ar wahân.”
Mae hefyd angen i eraill ailddarganfod pŵer ymddiheuriad er mwyn adfer hyder ac ymddiriedaeth, meddai.
“Mae angen i’n bywyd cenedlaethol, gwleidyddol a diwylliannol, gaei ei lunio mewn ffordd sy’n ennyn hyder, pan wneir camgymeriadau a chamau bwriadol, ein bod yn cydnabod ein rhan ein hunain yn gywir ac, mewn geiriau sy’n gyfarwydd i Anglicaniaid, nad ydym yn dadosod nac yn cuddio ein methiannau o flaen wyneb Duw hollalluog. Mae pŵer i ddweud sori a chymryd camau priodol fel y gellir adfer hyder ac ymddiriedaeth.”
Dywedodd yr Archesgob fod hefyd angen i ni fod yn onest yng nghyswllt newid hinsawdd, “inni ddeall ein hunain yn atebol am ein defnydd ein hunain o adnoddau’r ddaear a pha effaith a gawn fel unigolion.”
Daeth i ben drwy ddweud, “Mae’r pŵer i ddewis, i gyfeirio ein hunain at y ffordd hon o fyw, yn wirioneddol drawsnewidiol. Fy ngobaith, fy ngweddi yw i ni yng Nghymru fyw’r newyddion da hyn yn y penderfyniadau mawr a llai a wnawn.”
Cafodd Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor, ei orseddu mewn gwasanaeth cenedlaethol yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor. Mae’n dilyn ei ethol yn Archesgob ym mis Rhagfyr, ar ôl gwasanaethu fel Esgob Bangor ers 2008.
Yn ystod y gwasanaeth cafodd yr Archesgob a’i gyd Esgobion eu cyfarch gan bobl ifanc o bob rhan o Gymru a ddaeth â’u geiriau o anogaeth a gweddi dros weinidogaeth yr Archesgob a’r Eglwys yng Nghymru i gyd.
Penllanw’r gwasanaeth oedd gorseddu’r Archesgob Andrew yn y Gadair Archesgobol o flaen y Brif Allor ym mhen dwyreiniol y gadeirlan. Bydd y Gadair yn aros yng Nghadeirlan Bangor drwy gydol cyfnod yr Archesgob Andrew yn ei swydd fel Archesgob.
Roedd y gadeirlan yn llawn o sŵn cerddoriaeth, emynau ac anthemau drwy gydol y gwasanaeth, gan cynnwys trefniant newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Paul Mealor o farddoniaeth Gymraeg o’r oesoedd canol a geiriau o’r Beibl.
Ymunodd gwesteion o fywyd gwleidyddol, diwylliannol a dinesig Cymru â chynrychiolwyr o eglwysi Cymru a’r Cymun Anglicanaidd.
Cafodd y wasanaeth ei ffrydio’n fyw ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan yr Eglwys yng Nghymru https://www.churchinwales.org.uk/en/ i alluoigi pawb i ymuno.
- Baiff uchafbwyntiau’r gwasanaeth eu darlledu ddydd Sul 1 Mai ar raglen Oedfa ar BB~C Radio Cymru am 12.02pm ac ar y rhaglen Celebration on BBC Radio Wales am 7.30am (a ailddarlledir am 7.30pm).
Ymunodd gwesteion o fywyd gwleidyddol, diwylliannol a dinesig Cymru â chynrychiolwyr o eglwysi Cymru a’r Cymun Anglicanaidd.
Cafodd y wasanaeth ei ffrydio’n fyw ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan yr Eglwys yng Nghymru https://www.churchinwales.org.uk/en/ i alluoigi pawb i ymuno.
- Baiff uchafbwyntiau’r gwasanaeth eu darlledu ddydd Sul 1 Mai ar raglen Yr Oedfa ar BBC Radio Cymru am 12.02pm ac ar y rhaglen Celebration on BBC Radio Wales am 7.30am (a ailddarlledir am 7.30pm).