Yr Eglwys yn anrhydeddu ei gwirfoddolwyr fel ‘cynhalwyr y fflam’
O ficer sy’n gwirfoddoli i’r RNLI i fideograffydd ifanc talentog sydd wedi helpu i gael ei eglwys ar YouTube, mae pobl sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i helpu eu cymunedau yn ystod yr argyfwng Covid yn cael eu cydnabod.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn rhoi sylw i “gynhalwyr y fflam” fel rhan o’i hymgyrch Tywyllwch i Oleuni Adfent. Maent yn cynrychioli’r cannoedd o bobl ar draws Cymru sydd wedi gwirfoddoli eleni i helpu eraill ym mha bynnag ffordd y gallan nhw, gan fwrw goleuni yn nhywyllwch y pandemig.
Y gobaith yw y bydd eu storïau yn ysbrydoli eraill hefyd i ystyried gwirfoddoli i gynnig eu rhoddion i’w cymunedau.
Meddai Esgob Bangor, Andy John, sy’n arwain yr ymgyrch, “Rydym wastad wedi ein bendithio’n hael â gwirfoddolwyr yn yr eglwys – mae helpu eraill yn fynegiant o’n ffydd Gristnogol. Rydym wedi’n rhyfeddu eleni, fodd bynnag, gan y ffordd y mae pobl wedi cynnig helpu eu cymdogion yn yr amodau heriol iawn y mae Covid wedi eu hachosi. Maent wedi cludo goleuni i dywyllwch y pandemig felly rydym yn eu galw yn ‘gynhalwyr y fflam’. Ni allwn roi sylw i bawb felly mae’r ychydig yr ydym wedi eu dewis yn cynrychioli’r cannoedd sydd gennym. Trwyddyn nhw, rydym yn dathlu ein holl wirfoddolwyr ac yn diolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw’n ei wneud.”
Mae’r holl gynhalwyr y fflam yn cael sylw ar dudalen ymgyrch Adfent yr Eglwys, ynghyd â ffurflen y gall pobl ei llenwi os byddan nhw’n dymuno gwirfoddoli hefyd.
Maent yn cynnwys:
- Joseff Griffith, hyrwyddwr eco-eglwys yn ei arddegau o’r Bala
- Y Canon Robert Townsend, sy’n gwirfoddoli ar y bad achub ym Miwmares
- June Cadogan, gwirfoddolwr ym Manc Bwyd Cadeirlan Bangor
- James Bessant Davies, fideograffydd yn ei arddegau yng Nghrughywel
- Suzanne Baker, sy’n helpu i redeg y prosiect Cefnogi Teuluoedd Eastside yn Abertawe
- Amanda Dore, stiward gwirfoddol 86 mlwydd oed yn y Fenni
- Barbara Jones, o Gwersyllt, Wrecsam, a sefydlodd grŵp crefftau eglwys ar Zoom, er ei bod yn drwm iawn ei chlyw
- Aimee Powell, o brosiect CARE a sefydlwyd gan blwyfi yn ardal Caerffili i ymateb i’r cyfnod clo cyntaf.
Darllenwch hanes ein cynhalwyr y fflam
Hanes ein Cynhalwyr y Fflam