Gardd Llonyddwch yn agor i gofio am ddioddefwyr Covid
Cafodd gardd gymunedol wedi’i chyflwyno i ddioddefwyr pandemig Covid ei agoriad swyddogol yn ddiweddar yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth.
Cyflwynwyd y syniad o ardd goffa mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Ecclesiastical Insurance ac fe gyrhaeddodd rownd derfynol Ranbarthol Cymru yn 2021. Galluogodd cefnogaeth bellach gan gronfa Eglwysi Cymru a weinyddir gan Gyngor Gwynedd i weledigaeth yr ardd gael ei gwireddu, ac mae bellach yn cynnwys meinciau coffaol sy’n edrych allan dros aber afon Dwyryd tua Chastell Harlech, gwelyau blodau ar gyfer planhigion peillio, llwybr sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn a gwelyau plannu uchel er mwyn i drigolion sydd â llai o symudedd allu cymryd rhan a garddio, ac adeiladwyd yr ardd gan yr eglwys a gwirfoddolwyr a chyflenwyr lleol. Mae ardal addysgol a chadwraeth ar gyfer plant yn cynnwys llecyn picnic a man gweithio yn yr awyr agored, gyda phwll bach i ddenu bywyd gwyllt y dŵr.
Plannwyd coeden goffadwriaethol gan y Cynghorydd Cymunedol Meryl Roberts yn ystod yr agoriad. “Mae’r ardd ar agor yn ddyddiol gydol y flwyddyn, mynediad am ddim, a bydd yn parhau fel man ar gyfer myfyrdod tawel ar gyffordd tref brysur.” meddai Angela Swann, aelod o’r Eglwys. “Gwahoddir unrhyw un a gollodd aelod o’u teulu, ffrindiau neu gydweithwyr o ganlyniad i’r feirws a oedd yn drigolion Gwynedd i gael cofnodi eu henwau mewn Llyfr Coffáu a fwriedir ei lunio yn yr eglwys yn 2023, sydd bellach ar agor 10am–4pm yn ddyddiol.”
Meddai’r Parchedig Roland, “Mewn byd sy’n llawn pwysau a phryderon, o newid hinsawdd i drallod economaidd a gwrthdaro, mae’n braf cael man tawel, distaw i eistedd a myfyrio, a chael codi ein calonnau gan rywbeth gwirioneddol hardd; lliwiau’r blodau a chân yr adar.
“Mae’r ardd hon yn glod i aelodau’r eglwys ac aelodau cymuned Penrhyndeudraeth, sydd wedi dod ynghyd i greu rhywbeth gwerth chweil.”
Meddai’r Cynghorydd Meryl Roberts, “Roedd yn anrhydedd agor yr ardd hon fel fy ymrwymiad cyntaf fel cynghorydd sir. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi gweithio ar yr ardd, ac mae’n werth dod i weld yr ardd ac eistedd ynddi.”