Datgelu trysorau cadeirlannau Cymru mewn llyfr newydd
Mae’r Beibl Cymraeg cyntaf a gwaith celf cyn-Raffelaidd ymysg y trysorau o gadeirlannau Cymru a ddangosir mewn llyfr newydd.
Mae straeon 50 arteffact hynod, a gadwyd gan gadeirlannau yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Lloegr, i’w gweld mewn llyfr Deans’ Choice: Cathedral Treasures of England and Wales. Cafodd pob trysor eu dethol a’u disgrifio gan Ddeon, neu uwch glerigwr, y gadeirlan dan sylw a chafodd y llyfr ei baratoi gan Janet Gough sydd yn Ganon yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor.
Y Beibl Cymraeg cyntaf, sy’n dyddio’n ôl i 1588, a chofeb ei gyfieithwyr oedd dewis Cadeirlan Llanelwy. Cafodd triptych Had Dafydd gan Rossetti – paentiad olew cyn-Raffelaidd – ei ddewis gan Gadeirlan Llandaf a phanel canolog y peintiad hwnnw a ddewiswyd yn llun ar gyfer clawr y llyfr.
Y trysorau arall o Gymru a ddewiswyd yw:
- Creirfa canol-oesol Dewi Sant, nawddsant Cymru, yng Nghadeirlan Tyddewi
- Bedyddfaen Normanaidd fwyaf Cymru yng Nghadeirlan Aberhonddu
- Crist Mostyn – ffigur pren cyn-Ddiwygiad, gwir faint o Grist – yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor
- Crog Casnewydd – gwaith celf modern trawiadol a wnaed o wifren – yng Nghadeirlan Casnewydd
Dywedodd Dr Sarah Rowland Jones, Deon Tyddewi, “Cafodd Cymru ei bendithio gyda llu o drysorau yn ei heglwysi ac yn neilltuol ei chadeirlannau. Cafodd llawer ohonynt eu coleddu a’u cadw dros ganrifoedd gan genedlaethau’r gorffennol, a daethant yn rhan o’n hymdeimlad o ddiwylliant a hunaniaeth. Yn aml, yr adeilad ei hun yw’r trysor.
“Roedd yn gryn dasg dewis un neu ddau yn unig o’r trysorau o bob un o’r chwe chadeirlan yng Nghymru i’w cynnwys yn y llyfr hardd a diddorol iawn hwn, ond gobeithiwn y bydd y rhai y gwnaethom eu dewis yn codi cwr y llen i’r darllenydd am dreftadaeth grefyddol Cymru ac efallai godi awydd i ymweld a darganfod mwy.”
Cafodd Cymru ei bendithio gyda llu o drysorau yn ei heglwysi ac yn neilltuol ei chadeirlannau
Dywed Is-Ddeon Cadeirlan Deiniol Sant, Canon Siôn Rhys Evans, “Bu i Janet Gough gyflawni gorchwyl arbennign y llynedd trwy ddod yn un o ganoniaid lleyg cyntaf Cadeirlan Deiniol Sant. Eleni, wrth lunio’r llyfr hardd a phwysig hwn, mae hi wedi rhoi cadeirlannau Cymru ar y map, gan arddangos ein trysorau Cymreig bendigedig law yn llaw â rhai enghreifftiau Saesneg mwy adnabyddus. Rydym yn ddiolchgar iawn i Janet am ei gwaith, yma ym Mangor ac yn awr ledled Cymru, i rannu gogoniannau ein cadeirlannau gyda chynulleidfa ehangach.”
Wrth gyflwyno’r llyfr dywedodd Janet Gough, sydd hefyd yn ddarlithydd a chynghorydd ar eglwysi a chadeirlannau hanesyddol, “Gan gynnwys cynifer o grefftau a sgiliau dros gyfnod o fwy na 1,000 o flynyddoedd, mae’r llyfr yn deyrnged i’r cenedlaethau o grefftwyr sy’n gyfrifol am greu a chynnal cadeirlannau fel y gwyddom amdanynt heddiw – yn cynnwys y miloedd o glustogau pen-glin a gafodd eu pwytho, gan fenywod yn bennaf.
“Mae’r 50 trysor hefyd yn dyst i ganrifoedd o Gristnogaeth a chadeirlannau fel mannau addoli a ogoneddwyd gan fynegiant artistig – yma mewn sgriniau crog, croesi ac eitemau litwrgaidd.
“Cafodd hanesion a phensaernïaeth ein cadeirlannau eu dogfennu a’u disgrifio mewn llawer o ffyrdd gan lawer o bobl dros y blynyddoedd mewn llyfrau o bob math a maint. Ond yma caiff eu straeon eu datgelu o’r newydd, drwy un gwrthrych arbennig ar bob tudalen ddwbl, ac yn llais Deon y gadeirlan sy’n ei drysori.”
Cyhoeddir Deans’ Choice: Cathedral Treasures in England and Wales gan Scala Arts & Heritage Publishers, pris £14.95, ISBN: 978-1-78551-453-1 Archebwch o: www.cpo.org.uk/cathedral-treasures-shop
Trysorau Cymru
Cadeirlan Llanelwy – Cofeb Cyfieithwyr y Beibl a Beibl Cymraeg William Morgan
Mae Cofeb y Cyfieithwyr, a ddadorchuddiwyd yn 1892 tu allan i’r Gadeirlan yn nodi 300fed mlwyddiant cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588. Mae’n dathlu wyth dyn, y rhan fwyaf ohonynt o Sir Ddinbych a Conwy, y gall eu gwaith arloesol yn rhwydd fod wedi helpu i achub y Gymraeg. Maent yn cynnwys yr Esgob William Morgan (1545-1604), a gyfieithodd yr holl Feibl i’r Gymraeg dros 10 mlynedd gyda chymorth Edmund Prys a Gabriel Goodman. Mae’r Beibl gwreiddiol i’w weld yn y Gadeirlan, ynghyd â diwygiadau diweddarach.
Cadeirlan Aberhonddu – bedyddfaen Normanaidd
Y gadeirlan yw cartref y bedyddfaen Normanaidd mwyaf yng Nghymru. Yn dyddio o tua 1190, credir ei bod yn Normanaidd hwyr neu ‘drosiannol’ oherwydd y pendistiau pigfain Gothig o amgylch ei fôn. Mae’r garreg yn oleuach na thywodfaen y waliau, ac mae’n rhaid iddi gael ei chuddio dan ddaear ar ryw adeg oherwydd fod y cerfiadau ar yr ochr orllewinol wedi treulio. Mae’r cerfiadau symbolaidd grotesg – coeden bywyd, sgorpion, eryr, pysgodyn a thri dyn gwyrdd – wedi goroesi, gan edrych yn fwy Celtaidd na Normanaidd. Mae’r cerfiadau ar y fowlen mewn arddull Normanaidd cynnar. Mae gan y golofn y mae’r fowlen yn sefyll arni fwâu plethedig yn nodweddiadol o’r cyfnod Normanaidd hwyrach. Mae’r fedyddfaen yn dal i gael ei defnyddio heddiw.
Cadeirlan Tyddewi – creirfa Dewi Sant
Mae creirfa ganol-oesol Dewi Sant yn oroesydd prin o oes y pererinion. Roedd yn cynnwys esgyrn a ddarganfuwyd yn ddiweddar, yr hawlir eu bod yn esgyrn Dewi, a gollwyd yn ystod cyrchoedd y Ficingiaid. Mae rhai o olion y paentwaith helaeth gwreiddiol yn dal i’w gweld. Fe’i hysbeiliwyd adeg y Diwygiad, gyda chreiriau wedi eu tynnu a phererindodau wedi eu gwahardd, arhosodd y greirfa wrth galon y gadeirlan a chafodd ei hadfer yn rhannol yn 2012. Caiff gwasanaeth Gweddïau Pererinion ei gynnal yn y greirfa bob dydd Gwener am ganol-dydd a chaiff bellach ei ffrydio’n fyw gyda chynulleidfa fyd-eang reolaidd.
Cadeirlan Deiniol Sant, Bangor – Crist Mostyn
Mae Crist Mostyn, crog prin, defosiynol yn ffigur realistig gwir faint o Grist yn eistedd gyda symbolau’r Croeshoeliad. Cyrhaeddodd y gadeirlan yn y 1950au ar fenthyg parhaol gan yr Arglwydd Mostyn, yr oedd ei hynafiaid wedi rhoi’r cerflun ar ben y sgrin clerwyr yn Neuadd Gloddaeth. Fe’i cerfiwyd – yng Nghymru mae’n debyg (er fod rhai wedi gweld dylanwadau o ogledd Ffrainc) ac mae’n debyg yng nghanol y 15fed ganrif – o un darn o dderw, gyda’r cefn wedi ei gafnu yn defnyddio trawiadau hir gyda chŷn. Mae’n un o’r cerfluniau pren Cymreig cyn-diwygiad o’r dosbarth hwn sydd wedi goroeri.
Cadeirlan Llandaf – Triptych Had Dafydd (1856-64)
Y paentiad hwn oedd un o gomisiynau mawr cyntaf Dante Gabriel Rossetti. Dewisodd Eni Crist yn bwnc. Mae’r teitl yn tanlinellu bod Crist yn ddisgynnydd Dafydd, a ddangosir ar ddwy adain y triptych: ar y chwith fel bugail ifanc ac ar y dde fel brenin. Mae’r panel yn y canol yn dangos y gellir addoli Crist gan y cyfoethog a’r tlawd, bugail a brenin, gyda ffon bugail a choron wrth ei draed. Mae’r baban Iesu yn dal ei law allan i gael ei chusanu gan fugail tlawd a’i droed gan frenin, yn dangos goruchafiaeth tlodi dros gyfoeth.
Cadeirlan Casnewydd – Crog Casnewydd
Crog Casnewydd yw’r newyddaf o drysorau’r gadeirlan. Fe’i gosodwyd ar ddiwedd cyfnod clo cyntaf Covid-19 yn 2020 wrth y fynedfa i fwa’r côr. Cafodd y gwaith celf modern trawiadol ei wneud o wifren gan yr artist Tay Swee Siong o Singapore, cafodd ei osod lle byddai’r crog canol-oesol wedi bod ger drws uchel y llofft grog. Mae ymddangosiad y gwaith yn dibynnu ar ble mae’r sawl sy’n edrych arno yn sefyll. O rai sefyllfaoedd mae bron yn toddi i’r cefndir a dod yn anweladwy. Gall ymddangos yn ddisglair pan mae’r haul yn tywynnu o’r de. Gyda’r toeau fel cefnlen, mae’n amlwg a llawn, gan hongian yng nghanol y gadeirlan.