Teyrnged i’r Pab Ffransis gan Archesgob Cymru

Aeth y Pab Ffransis i orffwys tragwyddol ar Ddydd Llun y Pasg, Ebrill 21, 2025, yn 88 oed, yn ei gartref yn Casa Santa Marta yn y Fatican.
Teyrnged i’r Pab Ffransis gan Archesgob Cymru
“Gyda thristwch dwysaf y clywais am farwolaeth y Pab Ffransis. Gyda'i farwolaeth, mae'r byd wedi colli arweinydd yr oedd ei gariad, ei dosturi a'i ofal dros y tlawd a'r rhai ar yr ymylon yn deilwng o'r Sant y dewisodd cymryd ei enw. Mae gennyf atgofion hapus iawn o’n cyfarfod yn y Fatican fis Rhagfyr 2023 pan siaradom am Gymru a phan gyflwynais anrheg symbolaidd iddo. Yn yr Eglwys yng Nghymru, ymunwn mewn gweddi gyda’n brodyr a’n chwiorydd yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig wrth iddynt deimlo colled eu Tad Sanctaidd, a diolchwn gyda hwy am fywyd o ffydd sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i filiynau dirifedi. Yng Nghymru, cawn atgof parhaol o’i haelioni gyda’r rhodd o ddarn o’r Wir Groes, sydd wedi’i ymgorffori yng Nghroes ddefodol Cymru a arweiniodd orymdaith y Coroni ac sydd bellach yn cael ei rhannu rhwng yr Eglwysi Anglicanaidd a Chatholig yng Nghymru. Wrth i’w fywyd o ymroddiad i’n Hiachawdwr Iesu Grist ddod i ben, bydded i’r Pab Ffransis orffwys mewn tangnefedd, a llewyrched goleuni tragwyddol arno.”