Talu teyrngedau i aelod amlwg o’r Eglwys
Mae Archesgob Cymru wedi arwain teyrngedau i aelod amlwg o’r Eglwys a oedd y fenyw gyntaf i ddal swydd uwch yn ei Chorff Llywodraethol.
Bu Lis Perkins farw ar fore’r Pasg yn dilyn salwch byr. Yn aelod am gyfnod maith o Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol, gwasanaethodd yn Gadeirydd arno rhwng 2016 a 2020, y fenyw gyntaf i ddal y swydd honno. Arhosodd yn aelod o’r Pwyllgor Sefydlog tan fis Hydref y llynedd.
Yn ystod ei chyfnod ar y pwyllgor, gwasanaethodd Lis hefyd ar nifer o is-bwyllgorau, yn cynnwys y Grŵp Gweithredu a gynghorodd ar argymhellion Adolygiad 2012 yr Eglwys yng Nghymru a’r Pwyllgor Canmlwyddiant a arweiniodd gynlluniau i ddathlu canmlwyddiant yr Eglwys yn 2020.
Roedd yn dal i gymryd rhan weithgar iawn ym mywyd ei phlwyf ym Mhorthaethwy, gan drefnu gŵyl gerdd flynyddol a hi hefyd oedd Hyrwyddwr Masnach Deg Esgobaeth Bangor.
Dywedodd yr Archesgob Andrew John, “Roedd Lis yn aelod hoff ac uchel iawn ei pharch yn daleithiol ac yn Esgobaeth Bangor. Roedd ei hymrwymiad i’r Corff Llywodraethol a hefyd ei heglwys leol yn cael ei gyfateb gan ymrwymiad diysgog i gyfiawnder ar draws y byd.
Rydym wedi colli rhywun o egni a hwyl enfawr.
"Cofiwn am ei gŵr John Perkins a’u teulu a diolch am gyfraniad Lis at fywyd a gwaith ein Heglwys.”
Cafodd Lis ei disgrifio gan Dr Sian Miller, a olynodd Lis fel Cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, fel “cyfaill a mentor”. Dywedodd, “Pan ymunais â Phwyllgor Sefydlog yr Eglwys yng Nghymru, roeddwn eisoes wedi gweld y fenyw anhygoel o ddigynnwrf hon ar waith yn y Corff Llywodraethol. Mae angen pen pwyllog a chalon garedig i gadeirio cyfarfodydd y Corff Llywodraethwyr, lle mae siaradwyr yn aml yn siarad am fwy o amser nag a glustnodwyd iddynt. Ond roedd Lis yn gymaint mwy na phâr saff o ddwylo. Roedd yn angerddol dros hyrwyddo’r Gymraeg ym mywyd bob dydd yr eglwys, yn ogystal ag mewn gweddi. Roedd Masnach Deg yn amlwg iawn yn ei bywyd gan ei fod yn fynegiant o’i ffydd.
“Pan ymddeolodd Lis fel Cadeirydd, fe wnaeth fy annog i sefyll. Roeddwn wedi ei hadnabod fel cydweithiwr ond daeth nawr yn gyfaill a mentor. Caiff Lis ei chofio fel cydweithiwr, mentor a chyfaill, a byddwn yn ei cholli gyda thristwch mawr.”
Dywedodd Simon Lloyd, prif weithredwr Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, “Dim ond os oes ganddi gyfraniad ymroddedig ac angerddol y rhai sy’n gwasanaethu mewn llu o wahanol swyddi y gall yr Eglwys yng Nghymru weithredu. Roedd Lis Perkins yn un o’r rhai a roddodd yn hael o’i hamser a’i harbenigedd mewn amrywiaeth eang o wahanol gyd-destunau. Bydd y rhai a gafodd y fraint o weithio gyda hi yn colli a chofio ei sirioldeb, ei dirnadaeth a charedigrwydd yn fawr iawn.”
Dywedodd y Parchg Richard Wood, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio, “Bydd Lis yn cael ei cholli’n fawr gan ei chymuned leol ym Mhorthaethwy a’r cyffiniau ar Ynys Môn ac yn enwedig Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio y bu’n rhan annatod ohoni.
“Roedd cael ei gwreiddio mewn cymuned addoli ddwyieithog wedi rhoi llawer o’r angerdd a’r egni iddi ddylanwadu er daioni ar raddfa llawer mwy.
“Mae’r cariad a’r hoffter a ddangoswyd at Lis yn yr eglwysi lleol yn brawf o’r modd y rhannodd hi ag eraill gariad Duw yr oedd yn ei adnabod drosti ei hun.”
Cynhelir angladd Lis yng Nghadeirlan Bangor am 1pm.