Talu teyrngedau i hyrwyddwr y Gymraeg
Talwyd teyrngedau i glerigwr a hyrwyddwr amlwg ar y Gymraeg a fu farw ddydd Mawrth ar ôl salwch hir.
Bu’r Parch Lyn Lewis Dafis, 61, yn gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Leol Bro Padarn, Aberystwyth gyda chyfrifoldeb neilltuol am Eglwys Sant Ioan, Penrhyncoch. Ef hefyd oedd Swyddog y Gymraeg Esgobaeth Tyddewi ac roedd yn aelod o Bwyllgor Cymraeg yr Eglwys yng Nghymru.
Ordeiniwyd Lyn saith mlynedd yn ôl, yn dilyn gyrfa 25-mlynedd fel llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yn sylwebydd a chyfrannwr cyson ar y cyfryngau ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg a’r eglwys.
Disgrifiwyd Lyn gan Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi, fel “aelod annwyl o gymuned yr Esgobaeth”. Dywedodd, “Gweithiodd Lyn yn ddiflino i sicrhau y gallai bywyd a gweinidogaeth Tyddewi ffynnu yn y Gymraeg ac y caiff y rhan hon o’n bywyd cyffredin ei annog a bod ganddi adnoddau digonol.
“Ynghyd â’i deulu a’i ffrindiau, bydd plwyfolion a chydweithwyr Lyn yn Nhyddewi yn gweld ei golli’n fawr. Diolchwn i Dduw am ei garedigrwydd addfwyn a’i hiwmor da, ei gariad at Dduw a’r gwasanaeth a roddodd i eraill, hyd yn oed ar adegau anodd. Roedd Lyn yn berson cynnes a hawl a roddodd ei hun i eraill fel Darllenwr a Gweinidog. Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’i deulu, ffrindiau, cydweithwyr yn yr Ardal Weinidogaeth Leol a phlwyfolion ar y cyfnod trist hwn.”
Disgrifiodd Eileen Davies, Archddiacon Aberteifi, ef fel “Cymro i’r carn”.
Dywedodd, “Cafodd Lyn ei alw i wasanaethu, a dyna a wnaeth hyd y diwedd un. Roedd Lyn yn ŵr llawn gwybodaeth, yn Gymro i’r carn, ac yn byw ei ffydd bob dydd o’i fywyd. Roedd yn sicr yn ddiwinyddol, yn ddarllenwr, ac yn deall yr Ysgrythurau gan ei cyfleu i bobl o bob oed mewn ffordd ddealladawy a dwys. Mae Esgobaeth Tyddewi wedi colli bugail da a ffyddlon, a chyfaill triw, gan estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â’i deulu a’i ffrindiau da.”
Yn hanu o Fynachlog-Ddu yn Sir Benfro, astudiodd Lyn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gwasanaethodd fel darllenydd lleyg cyn hyfforddi ar gyfer gweinidogaeth ordeinedig yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf. Ar ôl ei ordeinio, dychwelodd i Fro Padarn a bu’n gurad cynorthwyol am chwe mlynedd. Cafodd ei benodi yn gyd offeririad yng ngofal Ardal Weinidogaeth Leol Bro Padarn fis Gorffennaf diwethaf. O 2020 ymlaen bu Lyn hefyd yn gynghorydd galwedigaethau ar gyfer Archddiaconiaeth Aberteifi.
Dywedodd y Canon Enid Morgan, a wasanaethodd gyda Lyn yn Ardal Weinidogaeth Leol Bro Padarn, “Yr oedd Lyn yn perthyn i linach anrhydeddus o unigolion lleyg ac offeiriaid yn yr eglwys a garai Gymru, ei thraddoddiadau a'i llên ac y garai'r eglwys a'i Harglwydd hyd yn oed yn fwy. Gweithiodd yn ddiflino fel darllenydd lleyg yn eglwys y Santes Fair yn Aberystwyth, ac wedyn fel offeiriad yn Eglwys Penrhyncoch, rhan o ardal Bro Padarn, ar waethaf y dirywiad yn ei iechyd. Bu'n feistr ar feta-data yn y Llyfrgell Genedlaethol a'i galluogodd i addasu'r dechnoleg i ddefnydd y plwyf pan ddaeth y cyfnod cloi. Fe gofiwn am ei ddireidi, ei diriondeb a'i barodrwydd i fwrw mlaen gyda phrosiectau sylweddol.”
Dywedodd y Canon Andrew Loat, sydd hefyd yn offeiriad yng ngofal Pro Padarn, “Roedd Lyn yn gydweithiwr rhagorol yn Ardal Weinidogaeth Leol Bro Padarn, gan weithio’n dda gydag aelodau eraill o dîm y weinidogaeth a gydag arweinwyr lleyg. Roedd yn angerddol am ddefnyddio’r Gymraeg yn yr Eglwys yng Nghymru yn y dalaith a hefyd yn lleol ond roedd yn hael a charedig at y rhai na fedrai’r iaith. Gyda’i broblemau iechyd, a hefyd y cyfnod clo oherwydd Covid-19, daeth dawn Lyn gyda thechnoleg yn flaenllaw gan iddo nid yn unig sefydlu ein gwasanaethau rhithiol drwy Zoom ond hefyd sefydlu tîm o wirfoddolwyr i helpu ei redeg, felly mae pob tebygrwydd y gall y weinidogaeth hon barhau. Byddaf yn colli Lyn fel cyfaill yn ogystal â chydweithiwr, gan gofio ei amynedd, ei hiwmor direidus a’i ddiddordebau eang.”
Dywedodd y Parch Dyfrig Lloyd, a wasanaethodd gyda Lyn ar Bwyllgor Taleithiol y Gymraeg fod Lyn yn ymroddedig i annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn yr Eglwys.
Meddai, “Cofiaf Lyn fel un a oedd ganddo angerdd dros Grist, yr iaith Gymraeg a’r pethau gorau Cymreig. Roedd ym mhob ystyr yn fugail gofalus ac yn athro amyneddgar. Roedd Lyn yn angerddol dros weld cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg, Cymraeg naturiol ac ystwyth, yng ngweinidogaeth a chenhadaeth yr Eglwys yng Nghymru. I’r perwyl hwnnw yr oedd yn gefnogol iawn i siaradwyr y Gymraeg o bob lefel gan eu hannog i ddefnyddio’u Cymraeg yn eu gweinidogaeth feunyddiol. Mae ei farwolaeth annhymig yn golled fawr i’r Eglwys yng Nghymru ac i bawb oedd yn ei adnabod.”
Cynhelir angladd Lyn ddydd Sadwrn 26 Mawrth. Cynhelir gwasanaeth coffa, fydd ar agor i bawb, yn Eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr am 2pm.